Dyddiad cychwyn:12/10/24 | Dyddiad gorffen: 06/05/25
Mae’r cynllun yn ymwneud â chlirio coed, a sefydlogi’r llethr drws nesaf i ffordd yr A40 tua’r gorllewin, sy’n profi tirlithriadau bach a allai fod yn beryglus i yrwyr.
01 Mai (20:00 - 00:00)
- Ffordd ar gau yn ystod y nos i'r ddau gyfeiriad ar yr A40 Halfway, i'r dwyrain o Lanymddyfri.
Nid oes angen cau'r ffordd yn llwyr ar gyfer gweddill y cynllun.
Bydd goleuadau traffig dros dro 24 awr yn aros yn eu lle tan ddiwedd mis Mai er mwyn caniatáu i waith gael ei gwblhau.
Bydd traffig yn cael ei anfon ar hyd y rhwydwaith Cefnffyrdd cyfagos – y llwybr amgen ar gyfer traffig trwodd tua'r dwyrain fydd yr A483 tua'r gogledd-ddwyrain i Lanfair-ym-Muallt a'r A470 tua'r de-ddwyrain i Aberhonddu i ail-ymuno â'r A40 ar Gylchfan Brynich, Aberhonddu. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig trwodd tua'r gorllewin.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TraffcWalesS.