Dyddiad cychwyn: 23/02/2025 | Dyddiad gorffen: 15/04/2025
Gwrthlif yn weithredol drwy dwneli Gibraltar ar yr A40 a bydd hyn yn parhau yn ei le 24 awr y dydd am gyfnod y gwaith (tua 6 wythnos). Bwriedir gwneud gwaith trwsio ar ochr dde’r twnnel, cyn newid y ffordd gerbydau i drwsio ochr ogleddol y twnnel.
23 Chwefror (20:00) – 24 Chwefror (06:00)
- A40 ar gau i'r ddau gyfeiriad o Raglan-Trefynwy oherwydd gwrthlif
Gwrthlif (1 lôn o draffig pob ochr)
24 Chwefror (06:00) – 15 Ebrill (06:00)
- Bydd gwrthlif yn parhau yn ei le 24 awr y dydd am gyfnod y gwaith (tua 6 wythnos) dim ond un lôn ar gael pob ochr i'r ffordd.
- Cyfyngiadau cyflymder yn ei le trwy gydol y gwaith.
- Bydd gwasanaeth am ddim i gasglu cerbydau sydd wedi torri lawr ar gael yn ardal y gwrthlif.
- A40 tua'r gogledd bydd cilfan (tua'r gogledd-ddwyrain o Mitchel Troy 29/1 ar gau trwy gydol y gwaith)
16 Mawrth (20:00) – 17 Mawrth (06:00)
- A40 ar gau i'r ddau gyfeiriad o Raglan-Trefynwy i newid y gwrthlif i'r cyfeiriad arall.
14 Ebrill (20:00) – 15 Ebrill (06:00)
- A40 ar gau i'r ddau gyfeiriad o Raglan-Trefynwy i dynnu'r gwrthlif yn gyfan gwbl.
Oherwydd natur y gwaith, mae'n angenrheidiol i gyflawni'r gwaith atgyfeirio yn llawn cyn ail-agor y twnnel i draffig.
Bydd oriau gwaith estynedig yn ystod y dydd ac ar benwythnosau er mwyn cyflawni'r gwaith ac i leihau amser y rhaglen os bydd modd.
*Sylwch y gall y dyddiadau newid.
- Gwyriadau yn ystod cau dros nos
Mae’n rhaid i draffig y draffordd a llwythi anghyffredin deithio i gyfeiriad y de ar yr A449 tuag at yr M4 yng Nghyffordd 24 (Coldra), parhau i’r dwyrain ar yr M4 i Gyffordd 20, yna yr M5 tua’r gogledd i Gyffordd 8, ac yn olaf tua’r de ar yr M50 i ailymuno a’r A40 yn Ross-on-Wye. Mae traffig i’r de-orllewin yn parhau ar yr un llwybr ond i’r gwrthwyneb.
- Mae’n rhaid i draffig sydd ddim yn teithio ar y draffordd a mynediad i Wasanaethau Gogledd Trefynwy adael yr A40 yn Rhaglan a dilyn ffyrdd lleol drwy Dingestow Road a Mitchel Troy Road ac ymuno â'r A40 yn Cinderhill Street. Traffig yn teithio i'r de-orllewin adael yr A40 yng nghylchfan Dixton ar hyd ac yna i ddilyn ffyrdd lleol i ailymuno â’r A40 yn Mitchel Troy.
2. Gwyriadau yn ystod y gwrthlif
Mae’n rhaid i feicwyr, cerddwyr a cherbydau annilys adael yr A40 yn Rhaglan a dilyn ffyrdd lleol, ac ymuno â'r A40 yn Cinderhill Street, i'r gogledd o Dwneli Gibraltar. Mae’n rhaid i draffig o dde-orllewin adael yn Beech Roa i ymuno â'r A40 yn Mitchel Troy.
- Llwythi anghyffredin i ddilyn yr un gwyriad y draffordd pan roedd y ffordd ar gau dros nos.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TrafficWalesS.