Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A458 Llangadfan: Gwaith ail-wynebu

Dyddiad cychwyn: 02/12/2024 | Dyddiad gorffen: 09/12/2024

 

A458 Llangadfan, Photo © Roy Hughes (cc-by-sa/2.0)

Gwaith cynnal a chadw ac ail-wynebu hanfodol yn cael ei wneud ar y ffordd rhwng dydd Llun 2⁠ Rhagfyr tan ddydd Llun 9 Rhagfyr yn y lleoliad hwn.

  • A458 ar gau yn gyfan gwbl yn Llangadfan i'r ddau gyfeiriad.

Ni fydd unrhyw waith penwythnos yn cael ei wneud fel rhan o'r prosiect hwn. Hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra sy'n gysylltiedig â'r gwaith a diolch am eich cydweithrediad a'ch amynedd.


Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fydd llif traffig yn is. Bydd ein contractwr yn ceisio amharu cyn lleied â phosibl lle bynnag y bo modd, fodd bynnag, caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich teithiau.


Mae'r gwaith yn cynnwys plaenio wyneb presennol, addasu gorchuddion tyllau a gylïau, gosod arwyneb newydd, adnewyddu’r stydiau ffyrdd a marciau ffordd.

Sylwch fod yna llwybr gwyriad gwahanol ar gyfer cerbydau nwyddau trwm gydag ochrau uchel, ceir ac ar gyfer cerbydau nwyddau trwm pan fydd yr A44 Ponterwyd ar gau.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG a Facebook@TraffcWalesG.