Dyddiad dechrau : 28/07/2025 | Dyddiad gorffen : 30/08/2025
Gwaith i ailwynebu'r ffordd gerbydau ar ran tua 6km o'r A470 tua'r de rhwng Abercynon a Phontypridd. Bydd y gwaith yn dechrau ar 28/07/2025 am 25 noson.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 25 noson rhwng 20:00 a 06:00. Bydd y ffordd gerbydau tua'r de ar gau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 20:00 a 06:00 o 28/07/2025 i 30/08/2025.
Bydd traffig sy'n mynd tua'r de ar yr A470 o Abercynon yn cael ei ddargyfeirio drwy'r A4054.