Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A477 Cyffordd Mynegbost Nash

Dyddiad dechrau: 28 Mai | Dyddiad gorffen: Canol Medi 2024

A477 Nash Fingerpost

Gwaith i addasu'r gyffordd bresennol, gosod goleuadau traffig newydd a goleuadau stryd yng nghyffordd Mynegbost Nash i gychwyn ar 28/05/2024 am tua 18 wythnos.

Bydd y contractwr yn gweithio hyd at 12 awr y dydd, 6 diwrnod yr wythnos o ddydd Sul i ddydd Gwener 7am-7pm. Mae angen signalau traffig 24 awr dros dro drwy gydol y rhaglen er mwyn sicrhau diogelwch y modurwyr sy'n symud ar y gyffordd a'r gweithredwyr wrth i ni wneud y gwelliannau.

• Gwaith Cam 1 – Tua'r Dwyrain yn dechrau ar 28 Mai 2024 ac i'w gwblhau ganol Gorffennaf 2024
• Gwaith Cam 2 – tua'r Gorllewin yn cychwyn ym mis Gorffennaf ac yn parhau hyd at gyfnod Embargo'r Haf
• Bydd yr holl waith yn cael ei atal dros gyfnod llawn Embargo'r Haf o 22 Awst i 27 Awst 2024
• Bydd y gwaith yn ailddechrau ar 27 Awst tan ganol Medi 2024

Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn digwydd i wella diogelwch ffyrdd yn y lleoliad hwn. Gwneir pob ymdrech i leihau aflonyddwch yn ystod misoedd yr haf.

Oherwydd sensitifrwydd y llwybr yn ystod misoedd yr haf, bydd y signalau dros dro yn cael eu rheoli â llaw yn ôl yr angen i sicrhau bod yr oedi yn cael ei leihau cymaint â phosibl.
 

Dim yn eu lle

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD