Mae angen y gwaith cwlfer i adnewyddu’r strwythur presennol, sy'n cynnwys diffygion strwythurol. Datgelwyd y rhain yn ystod arolygiadau arferol sy'n digwydd bob dwy flynedd. Bydd ei adnewyddu yn sicrhau llif di-dor o'r cwrs dŵr ac yn atal y ffordd rhag cwympo neu lifogydd. Bydd y cwlfer newydd yn darparu sefydlogrwydd hirdymor i'r ffordd a'r ardal gyfagos, gan helpu i ddiogelu eiddo cyfagos a chynnal sefydlogrwydd gwasanaethau hanfodol fel systemau dŵr a charthffosiaeth sy'n mynd trwy'r cwlfer.
Bydd angen dargyfeirio offer telathrebu cyn y gall y prif waith cwlfer ddechrau yn 2025.
Disgwylir i'r prif waith cwlfer ddechrau ym mis Ionawr 2025 a bydd yn golygu cloddio'r ffordd, tynnu'r hen gwlfer, sefydlogi'r tir cyfagos, adeiladu'r cwlfer newydd, ac ailadeiladu'r ffordd. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn agosach at yr amser.
Mae cymorth uniongyrchol gan Busnes Cymru ar gael i fusnesau sy'n wynebu ansicrwydd oherwydd bod y ffordd wedi cau'r. Mae hyn wedi'i deilwra yn unol ag anghenion y cleient. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru, sianeli cyfryngau cymdeithasol Busnes Cymru a'r llinell gymorth 03000 603000.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am gynnal prisiadau eiddo ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru. Mae'n asiantaeth weithredol i CThEF ac mae'n annibynnol o Lywodraeth Cymru.
Gall gostyngiadau dros dro i brisiadau gael eu gwneud lle mae tarfu lleol difrifol ar eiddo (e.e. llifogydd, gwaith adeilad neu waith ffordd). Fydd hwn yn fater i’r Asiantaeth y Swyddfa Brisio cysidro, gan ystyried yr amgylchiadau penodol. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i roi gwybod am newidiadau i'r Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ar gael yn: www.gov.uk/introduction-to-business-rates.