Dyddiad cychwyn 14/07/2025 | Dyddiad gorffen 29/10/2025
A55 Cyffordd 32a Pentre Helygain - Cyffordd 31 Caerwys ar gau yn llawn i'r ddau gyfeiriad – Cynnal a Chadw Llinell Bŵer Uwchben y Grid Cenedlaethol – dyddiadau amrywiol rhwng 14/07/2025 a 29/10/2025 rhwng 21:30 – 05:30
Bydd gwaith cynnal a chadw llinell bŵer uwchben hanfodol yn gofyn am gau ffordd gerbydau’r A55 tua'r dwyrain a'r gorllewin yn llawn dros nos rhwng Cyffordd 32a Pentre Helygain - Cyffordd 31 Caerwys.
Mae dyddiadau cau'r A55 ar hyn o bryd fel a ganlyn:
Dydd Llun 14 Gorffennaf (21:30)- Dydd Mawrth 15 (05:30)
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf (21:30) - Dydd Mercher 16 Gorffennaf (dyddiad wrth gefn) (05:30)
Dydd Mercher 03 Medi (21:30) - Dydd Iau 04 Medi (05:30)
Dydd Iau 04 Medi (21:30)- Dydd Gwener 05 Medi (dyddiad wrth gefn) (05:30)
Dydd Llun 06 Hydref (21:30)- Dydd Mawrth 07 Hydref (05:30)
Dydd Mawrth 07 Hydref (21:30) - Dydd Mercher 08 Hydref (dyddiad wrth gefn) (05:30)
Dydd Llun 27 Hydref (21:30) - Dydd Mawrth 28 Hydref (05:30)
Dydd Mawrth 28 Hydref (21:30) - Dydd Mercher 29 Hydref Dyddiad wrth gefn) (05:30)
Mae'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan y Grid Cenedlaethol a cheir rhagor o wybodaeth am y prosiect ar eu gwefan.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos 21:30 - 05:30 gan gau'r ffordd gerbydau tua'r dwyrain a'r gorllewin yn llawn (rhwng Cyffordd 32a Pentre Helygain - Cyffordd 31 Caerwys). Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A5026 Holway Road/ Heol Helygain.
Bydd nifer o fesurau lliniaru yn cael eu gosod ar y llwybr dargyfeirio i gynorthwyo gydag ymddygiad gyrwyr pan fydd y ffordd wedi'i chau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG