Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Ail-broffilio A465 Glyn-nedd

Dyddiad Dechrau: 24/03/25 | Dyddiad Gorffen: 05/06/25

A465 Glynneath

Gwaith i ailbroffilio'r ffordd hanfodol. Bydd y gwaith yn cychwyn ar y 24/03/2025 am 54 noson. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros gyfnod 54 noson rhwng 20:00 a 06:00. Bydd y ffordd tua'r dwyrain ar gau bob nos am gyfnod y gwaith rhwng y ffordd ymuno â'r A465 yng Nghyfnewidfa Glyn-nedd a Chyfnewidfa Hirwaun.

Bydd angen cau lôn 2 o'r ffordd tua'r Gorllewin ar gyfer rhan o'r gwaith. Bydd hyn yn digwydd rhwng 25/04/2025 – 19/05/2025, am oddeutu 14 diwrnod.

Ni fydd gwaith yn cael ei wneud ar benwythnosau.

Bydd traffig tua'r dwyrain ar yr A465 o Gyfnewidfa Glyn-nedd yn cael ei dargyfeirio ar hyd yr A4109, B4242 a chyfnewidfa Merthyr Road i Hirwaun.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD