Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Ail-wynebu’r A40 Ffordd Osgoi Caerfyrddin

Dyddiad Cychwyn:19/06/2025 | Dyddiad Gorffen:25/07/2025

A40

Gwaith hanfodol i ail-wynebu’r ffordd gerbydau ar hyd yr A40 Ffordd Osgoi Caerfyrddin rhwng Cylchfan Pensarn (A40/A48) a Chylchfan Glangwili (A40/A485) ar y ffordd gerbydau tua’r dwyrain a’r gorllewin. Bydd y gwaith ail-wynebu’n dechrau ar 19/06/2025 am gyfnod o 21 noson gyda noson ychwanegol wedi’i chynllunio ar 25/07/2025 i ailosod cymalau’r bont bresennol.
Yn ogystal â’r uchod, bydd gwaith atgyweirio gwrth-ddŵr yn cael ei wneud ar Bont Afon Tywi (Pont Cynnwr). Er mwyn ymgymryd â’r gwaith hwn yn ddiogel, bydd prif linell yr A40 tua’r gorllewin rhwng Cylchfan Glangwili (A40/A485) a Chylchfan Llangynnwr (A40/A484) ar gau i draffig o ddydd Gwener 4 Gorffennaf (20:00) hyd at ddydd Sul 6 Gorffennaf (06:00).

Bydd y gwaith ail-wynebu yn cael ei wneud rhwng dydd Iau 19 Mehefin a dydd Gwener 25 Gorffennaf dros nos rhwng 20:00 – 06:00 dan gyfres o gau’r ffordd yn llwyr ar y ffordd gerbydau tua'r dwyrain a'r gorllewin rhwng Cylchfan Pensarn (A40/A48) a Chylchfan Glangwili (A40/A485). Yn ystod y dydd, bydd cyfnodau pan fydd traffig yn rhedeg ar yr wyneb wedi'i falu cyn i'r gwaith ail-wynebu gael ei wneud, bydd marciau ac arwyddion dros dro ar waith yn ystod y cyfnod hwn a bydd y terfyn cyflymder yn cael ei ostwng i 40mya.
Er mwyn ymgymryd â gwaith atgyweirio gwrth-ddŵr hanfodol ar Bont Afon Tywi (Pont Cynnwr), bydd prif linell yr A40 i gyfeiriad y gorllewin rhwng Cylchfan Glangwili (A40/A485) a Chylchfan Llangunnor (A40/A484) ar gau i draffig o ddydd Gwener 4 Gorffennaf (20:00) hyd at ddydd Sul 6 Gorffennaf (06:00). Gwneir pob ymdrech i ailagor y ffordd gerbydau cyn gynted â phosibl yn ystod y penwythnos hwn i leihau'r aflonyddwch.
 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X https://TraffigCymruD