Dyddiad Cychwyn : 24/06/25 | Dyddiad Gorffen: 29/08/25
Bydd gwaith ail-wynebu hanfodol ffordd gerbydau'r M4 rhwng cyffordd 30 Porth Caerdydd - C32 Cyfnewidfa Coryton yn dechrau ar 24/06/2025 am 35 noson.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 35 noson 20:00 – 06:00, Llun - Gwener gan gau'r ffordd gerbydau yn llwyr rhwng Cyffordd 30 a Chyffordd 32.
Bydd y gwaith ar y ffordd gerbydau tua'r gorllewin yn dechrau ar 24/06/2025 ac yn gorffen erbyn 23/07/2025.
Bydd y gwaith ar y ffordd gerbydau tua'r dwyrain yn dechrau ar 24/07/2025 ac yn gorffen erbyn 21/08/2025. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau'r ddwy ffordd gerbydau ar yr un pryd.
Bydd yr M4 ar agor hyd at 22:00 ar y dyddiau canlynol:
Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2025
Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025
Mae'r gwaith yn cael ei wneud dros nos ym mis Mehefin a Gorffennaf 2025 pan fydd llif traffig yn is yn hanesyddol er mwyn lleihau unrhyw darfu.