Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A5 Pont y Borth: Gwaith cynnal a chadw sylweddol

Dyddiad cychwyn: 31/03/25 | Dyddiad gorffen: Rhagfyr 2025

A5 Pont y Borth

Mae Pont y Borth yn cael ei hadnewyddu er mwyn gwella diogelwch.

Mae'r gwaith yn cynnwys peintio'r tanlawr,  y parapets a'r berynnau mynediad, atgyweiriadau strwythurol, ac uwchraddio goleuadau.  bydd un lôn ac un droedffordd ar gau tra bod gwaith yn cael ei wneud. Bydd hyn yn digwydd ar y ddwy ochr yn eu tro.

Bydd rheolaeth traffig ar waith 24/7 yn ystod y gwaith.

31 Mawrth - Rhagfyr 2025

  • Lonydd ar gau am 24 awr gyda goleuadau traffig ar bob ochr i'r bont yn ôl yr angen.
  • Bydd goleuadau traffig yn cael eu rheoli  â llaw yn ystod yr oriau brig, er mwyn helpu i gadw cerbydau i symud mor effeithlon â phosibl.
  • Bydd cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell llym hefyd yn ei le gydol y gwaith.
  • Er mwyn cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad cau, bydd angen gwneud gwaith yn ystod gwyliau'r Pasg, hanner tymor yr ysgol a gwyliau haf. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r Nadolig nac ar wyliau banc.

Bydd angen i gerbydau sy'n pwyso dros 7.5 tunnell ddefnyddio’r A55 Pont Britannia.

Gall pob cerbyd arall barhau i ddefnyddio Pont y Borth ond dylech gadael amser ychwanegol ar gyfer eich teithiau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy⁠ X neu Facebook.