Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

M4 C24 i C28 Cynllun Gorfodi Cyflymder Cyfartalog - Cwestiynau Cyffredin

Mae'r cynllun hwn yn defnyddio technoleg i daclo tagfeydd ar ddarn 13km o gyffordd 24 (Coldra) i gyffordd 28 (Parc Tredegar).

Mae tua 120,000 o gerbydau'n teithio'r darn prysur yma o'r M4 bob dydd. Mae'r prosiect hwn yn hanfodol i wella diogelwch gyrwyr, llif traffig a phrofiad defnyddwyr y ffordd. Disgwylir y bydd disodli'r terfyn cyflymder newidiol gyda system orfodi cyflymder cyfartalog yn:-

  • help i reoli materion tagfeydd parhaus ar hyd y darn hwn o'r M4.
  • Gwella dibynadwyedd amser teithio yn ystod yr oriau brig a darparu llif traffig llyfnach.
  • lleihau'r risg o wrthdrawiad.
  • Darparu gwell ansawdd aer wrth i lefelau allyriadau gwenwynig gael eu lleihau.

Mae hyn yn ffurfio rhan o ddull gweithio Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â thagfeydd yn yr ardal yn unol ag argymhelliad adroddiad yr Arglwydd Burns a gafodd ei gyhoeddi ar ôl y gwaith a gynhaliwyd gan Gomisiwn Traffic De-ddwyrain Cymru.

Mae eu data llif traffig yn dangos fod newid lôn funud olaf a chyflymder traffig amrywiol yn aml yn arwain at dorri ar lif traffig ar yr M4 yn ardal Casnewydd, yn enwedig wrth nesáu at dwneli Brynglas. Er bod y system VSL wedi bod yn effeithiol wrth reoleiddio cyflymder yn ystod y cyfnod rhwng yr oriau brig, dim ond ychydig o effaith mae hyn wedi ei gael ar wella llif traffig yn ystod amseroedd prysur.

Mae eu dadansoddiad yn awgrymu y byddai rheoli cyflymder cyfartalog yn helpu i reoli cyflymder traffig ar rannau mwyaf problemus yr M4

 

 

 

 

 

 

Bydd y cyfyngiad 50mya parhaol rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 ar yr M4 yn cael ei weithredu 17/11/22. Yna bydd hysbysiadau o erlyn yn dechrau cael eu cyhoeddi.

Bydd y camerâu yn weithredol a bydd Go Safe yn monitro'r cyfyngiad cyflymder 50mya yn agos yn ystod y cyfnod cychwynnol. Bydd yn galluogi i wiriadau systemau a gorfodaeth llawn ddigwydd ac yn rhoi amser i fodurwyr arfer gyda'r cyfyngiad cyflymder newydd. Bydd rhybuddion erlyn yn dechrau cael eu cyflwyno yn ystod misoedd yr Haf.

Mewn amgylchiadau penodol, efallai y bydd gweithredwyr y ganolfan reoli yn gosod cyfyngiadau cyflymder cynghorol is neu bydd y system diogelu ciwiau yn gwneud hynny. Fel arfer, y rheswm am hyn yw i gefnogi gwaith cynnal a chadw a helpu i amddiffyn y gweithlu, yn enwedig wrth iddynt gwblhau'r gwaith peryglus o osod conau traffig ar y ffordd a'u tynnu oddi yna. O dro i dro, yn enwedig yn y nos, gall ymddangos fod y cyfyngiadau cyflymder wedi cael eu gosod heb reswm ond gall hyn fod oherwydd bod gyrwyr yn gweld yr arwyddion cyn i'r conau gael eu gosod allan neu yn syth ar ôl iddynt gael eu tynnu oddi ar y ffordd.

Mae wyneb y gerbydlon wedi cael ei hadnewyddu a marciau lôn ychwanegol wedi cael eu gosod i hyrwyddo disgyblaeth ar y lonydd. Bydd marciau ffordd manwl ar y cyd â'r arwyddion presennol yn helpu i atal modurwyr rhag newid lôn funud olaf a bydd yn golygu y bydd defnyddwyr y ffordd yn cael cymaint â phosib o rybudd i ddefnyddio'r lonydd cywir.

Rydym wedi cynyddu nifer y Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru i'n galluogi ni i wella'r amseroedd ymateb ac i ymestyn patrolau ar yr A48 a'r A4810 yng Nghasnewydd i helpu rheoli traffig yn yr ardal hon.

Gorfodi Cyfyngiad Cyflymder Cyfartalog - wedi'i reoli gan GoSafe

Bydd y system Cyflymder Cyfartalog yn mesur cyflymder cyfartalog cerbyd dros bellter penodol. Caiff y cerbyd ei adnabod wrth iddo fynd i mewn i ardal orfodaeth, ac eto wrth iddo ei gadael. Mae'r system wedi derbyn caniatâd gan y Swyddfa Gartref (Home Office Type Approval (HOTA)) sy'n caniatáu ei defnyddio er dibenion gorfodaeth.

 

Caiff gorfodi cyflymder trwy ddefnydd camerâu ar ymyl y ffordd yng Nghymru ei reoli a'i gydlynu gan GoSafe, partneriaeth amlasiantaethol sy'n cynnwys pob awdurdod priffyrdd yng Nghymru a'r pedwar Heddlu yng Nghymru. O fewn y strwythur partneriaeth hwnnw mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar ac yn gosod y camerâu sydd ar draffordd yr M4 a'r heddlu, fel yr awdurdod gorfodi, sy'n gyfrifol am eu gweithredu a chyflawni'r orfodaeth ar sail dydd-i-ddydd.

Mae mesurau wedi cael eu hadeiladu i mewn i'r system sy'n atal y camerau rhag gweithio os oes nam technegol. Dyluniwyd y system i sicrhau nad yw ond yn dal trosedd pan mae'r cyfarpar yn gweithio'n iawn. Mae hyn yn ofynnol dan HOTA.

Mae'r camerâu wedi cael eu gosod ar gantrïau ac adeiledd y ffordd ond yr heddlu sy'n gwneud y gwaith gorfodi. Mae'r cynllun yn gallu gorfodi 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac fe'i sefydlwyd i gyfrif am bobl sy'n ymuno neu'n gadael yr M4 ar gyffyrdd rhwng cyffyrdd 24 a 28. Mae mwy o wybodaeth am leoliadau camerâu a gorfodi i'w gweld yn https://gosafe.org/?lang=cy.