Dyddiad dechrau: 07/10/2024| Dyddiad gorffen: 19/10/2024
Cynhelir gwaith ail-wynebu hanfodol i hyd at 3.1km o briffordd yr M4 i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin.
Cynhelir y gwaith o 20:00 - 06:00 am unarddeg noson, a bydd y ffordd cerbydau i'r dwyrain a'r gorllewin wedi cau'n llwyr rhwng ffordd ymadael C45 a ffordd ymuno C46.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ym mis Hydref pan fo llif y traffig yn draddodiadol is, er mwyn lleihau'r aflonyddwch.
Bydd traffig y lôn i'r dwyrain cael ei ddargyfeirio yn ffordd ymadael C46, o amgylch cylchfan yr A48/M4/B4489, ar hyd yr A48, o amgylch cylchfan yr A48/A4067 (Ffordd Castell-nedd) ar yr A4067 (i gyfeiriad y gogledd) ac yn ailymuno â phriffordd yr M4 i'r gorllewin gan ddefnyddio'r ffordd ymuno o gylchfan yr A4067.
Bydd traffig y lôn i'r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio yn ffordd ymadael C46, o amgylch cylchfan yr A4067, ar hyd yr A4067, gan ymuno â'r A48 trwy ffordd ymadael yr A4067 i gyfeiriad de, ar hyd yr A48 gan ailymuno â cherbydlon yr M4 i'r gorllewin trwy'r ffordd ymadael ar gylchfan yr A48/M4/B4489.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gwasanaeth Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD, a Facebook @TraffigCymruD.