Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru'n ddiogel yn yr Haf

People driving in a red convertible

Wrth i fwy o bobl deithio i fwynhau'r heulwen, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod sut i gadw'n ddiogel. Dyma rai awgrymiadau cyflym a hawdd i helpu i chi cadw eich cŵl yr haf hwn.

 

Y llynedd, roedd lefelau traffig wedi cynyddu o tua 10% ar gyfartaledd ar ein ffyrdd yn ystod misoedd yr haf. Rhowch ddigon o amser i gyrraedd eich cyrchfan ac osgowch teithio ar adegau prysur os yn bosib.

Bydd hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o deimlo’n rhwystredig y tu ôl i'r llyw.

Peidiwch â chael eich dal allan - cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn ofalus wrth deithio i ddigwyddiadau'r haf hwn.

 

Yn yr haf mae'n hanfodol eich bod yn sicrhau bod gan eich car ddigon o oerydd injan fel nad yw'n gorboethi.

Gall problemau mecanyddol mawr ddigwydd o ganlyniad i orboethi injan car, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wirio bob cwpl o wythnosau.

 

Gall torri i lawr mewn gwres fod yn anghyfforddus iawn felly gwiriwch eich cerbyd yn gyflym.

Gellir osgoi'r rhan fwyaf o achosion o dorri i lawr ar draws y rhwydwaith os yw cerbyd yn cael ei gynnal a’i gadw.

Ddim yn siŵr beth i'w wirio? Cofiwch tanwydd, goleuadau, olew, dŵr, trydan, rwber ac eich hunan.

Mewn tywydd poeth mae'r aer yn eich teiars yn ehangu a all achosi problemau os maent yn cael eu difrodi. Efallai na fydd eich teiars yn gallu delio â'r pwysau cynyddol a achosir gan ehangu a gallent ffrwydro.

 

Pan fyddwch wedi'ch amgáu mewn car gallwch ddadhydradu'n gyflym, yn enwedig os yw'r tymheredd y tu mewn i'ch cerbyd yn uwch nag y mae y tu allan.

Cadwch yn hydradol drwy stocio'ch car gyda digon o hylifau. Byddwch yn aros yn fwy effro os ydych wedi'ch hydradu'n, gan wneud gyrru'n llawer mwy diogel.

  • Os yw'n bosib gyrrwch yn ystod amseroedd oerach o'r dydd ac osgowch parcio yng ngolau llawn yr haul.
  • Dewch â chwistrellau oeri a ffans llaw i'ch helpu i'ch cadw'n oer.
  • Os ydych yn gyrru'n araf, bydd agor y ffenestri yn eich cadw'n oer. Fodd bynnag, pan fyddwch yn mynd yn gyflymach, megis ar draffordd, bydd yr ymwrthedd i wynt a grëir gan cael y ffenestri yn agored yn defnyddio mwy o betrol na defnyddio’r system aerdymheru. 
  • Os oes gennych yr amser agorwch yr holl ffenestri cyn cychwyn i ryddhau'r gwres.

Peidiwch byth â gadael plant neu anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain mewn car poeth.  

Gall eich car weithredu fel tŷ gwydr a mynd yn beryglus o boeth mewn amser byr. Ar ôl hanner awr ar 21°C, gall y tymheredd y tu mewn i gar gyrraedd 40°C.

Nid oes dim yn dweud haf fel siwrneiau hir i fwynhau penwythnosau heulog i ffwrdd mewn gwersylloedd, atyniadau twristaidd a mannau harddwch.

Fodd bynnag, gall yr oriau a dreulir ar y ffordd fynd yn flinedig cyn bo hir os na fyddwch yn cymryd digon o seibiannau rheolaidd.

Bydd cael seibiannau rheolaidd yn ôl yr angen ac yfed diodydd gyda caffein yn helpu i'ch cadw yn effro dros daith hir.

Mae golau haul yn ei gwneud hi'n anodd gweld allan o'ch ffenestr flaen, yn enwedig os nad yw'n lân.

Gall ychydig o sbeciau o fudredd neu lwch guddio eich gweledigaeth o'r ffordd a gwneud gyrru'n beryglus iawn.

Am y rheswm hwn dylech bob amser wirio bod gennych ddigon o hylif golchi yng nghronfa ddŵr eich car a'i lanhau'n iawn.

Gall ffyrdd prysurach yn yr haf olygu bod ceir yn heidio i fannau o harddwch naturiol ac atyniadau twristaidd. Mae hyn yn lleihau’r nifer y lleoedd parcio sydd ar gael.

Peidiwch âg anwybyddu’r rheolau parcio. Er enghraifft, nid yw mannau pasio neu ardaloedd lle mae giat yn addas ar gyfer parcio gan fod y rhain yn aml yn fannau mynediad i fynd ar gaeau.

Os oes rhaid i chi barcio yn yr haul, rhowch gysgod haul yn eich cerbyd. Gall y rhain leihau tymheredd mewnol eich car o tua 15°C.

Cadwch bâr sbâr o sbectol haul yn eich car wrth yrru yn yr haf.

Bydd hyn yn atal golau'r haul ac, os oes gennych clwy’r gwair, maent yn  rhwystro paill rhag fynd i mewn i'ch llygaid.

Gall tywydd braf ei gwneud hi'n demtasiwn i yfed diod alcoholig.

Dylech osgoi cael unrhyw fath o alcohol os ydych yn gyrru, gan y bydd hyd yn oed ychydig yn effeithio ar eich gallu i yrru.

Mae hyn yn cynnwys dirywiad yn eich gallu i weld, eich hwyliau, eich sylw ac ei wneud hi’n anodd i chi gyflawni dwy dasg ar yr un pryd.

Mae'n well aros nes i chi gyrraedd eich cyrchfan, trefnu gyrrwr dynodedig neu gymryd trafnidiaeth gyhoeddus.

Edrychwch ar ein tudalen diogelwch ffyrdd i gael rhagor o wybodaeth am gadw'n ddiogel y tu ôl i'r llyw.