Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Torri Glaswellt Cwestiynau Cyffredin

red clover, ox eye daisies and buttercups along the M4 motorway

Ar hyn o bryd mae 700 o rywogaethau o flodau gwyllt yn tyfu ar ein hymylon ffyrdd yn y DU a gyda dros 97% o ddolydd wedi'u dinistrio ers y 1930au, mae'r ymylon hyn yn fwy hanfodol nag erioed o'r blaen i weithredu fel lloches i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Dros y blynyddoedd, mae ein tîm amgylcheddol wedi datblygu rhaglen cynnal a chadw gylchol a mentrau gwyrdd eraill i wella bioamrywiaeth ein ffyrdd wrth hefyd sicrhau diogelwch gyrwyr.

Heb reolaeth a gwaith cynnal a chadw gofalus, byddai'n hymylon ffyrdd yn gordyfu â mieri a sgrwb wrth i werth bioamrywiaeth yr ymylon ffordd leihau. Mae rheoli'n ymylon ffordd glaswelltog yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn helpu i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau ac atal rhywogaethau sy'n cystadlu, megis glaswellt, rhag gormesu'r blodau gwyllt. 

 

Ynghyd â thorri'r glaswellt ar gyfer y buddion amgylcheddol, rydym hefyd yn ymgymryd â thoriadau diogelwch a gwelededd i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd a'r amgylchedd. Mae gwaith torri er diogelwch yn cael ei wneud i greu lleiniau gwelededd ar gylchfannau, cyffyrdd a ffyrdd mynediad.

 

Rydym yn torri'r ymylon ffordd glaswelltog ddwywaith y flwyddyn, gyda'r toriad cyntaf yn cael ei amseru fel arfer ar gyfer diwedd y gwanwyn a'r ail doriad ar ddiwedd yr haf / yn gynnar yn yr hydref. Yn ystod y toriad cyntaf, rydym yn torri stribed 1 metr ar ymylon ffyrdd lle mae cyfoeth o rywogaethau'n bodoli.  Nid oes llawer o werth cynhenid i fywyd gwyllt i'r rhan yma gan ei bod yn rhy agos at y ffordd. Mae'r ail doriad yn doriad llawn ac mae'n cael ei wneud ar ôl i'r blodau gwblhau eu cylch bywyd a hadu. Fel hyn, mae arddangosfeydd trawiadol o flodau gwyllt ar hyd ein hymylon ffyrdd ac maent yn darparu cyfoeth o baill a neithdar i beillwyr drwy gydol misoedd y gwanwyn/haf.


 

Nid yn unig y mae'r rhaglen dau doriad hwn yn ffrwyno'r glaswellt ac yn ailgyflenwi'r banc o hadau blodau gwyllt, ond mae hefyd yn gwella diogelwch ar gyfer defnyddwyr y ffordd, yn lleihau'r byrdwn rheoli dros amser ac yn arbed arian. 

 

Torri a chasglu

Mae ardaloedd o laswelltir yn cael eu torri yn hwyr yn yr haf a'r glaswellt a dorrir yn cael ei gasglu i leihau ffrwythlondeb. Ar ôl y broses torri a chasglu, mae'r ddaear yna'n cael ei hagro gan ddefnyddio oged glaswellt i agor y tywyrch a chreu ardaloedd o bridd moel er mwyn helpu'r hadau i ymsefydlu. 

Bu i ni weithredu hyn yn llwyddiannus yn 2015 ar safle Porth Conwy fel rhan o fenter "Ymylon Ffyrdd ar gyfer Blodau Gwyllt" Llywodraeth Cymru. Yn dilyn y broses torri a chasglu a hagru, cynaeafwyd gwair gwyrdd o Gaeau Tan y Bwlch, dôl SoDDGA lleol, ac fe'i lledaenwyd dros yr ardal oedd wedi'i hagru. Bu i hyn arwain at gynnydd yn nifer ac amlder y rhywogaethau dangosydd positif gan gynnwys y gribell felen, pys ceirw'r mynydd, ytbysen y waun a'r feillionen goch.

Tynnu haen o uwchbridd

Lle bynnag bo hynny'n bosib, rydym yn peidio ag ychwanegu uwchbridd i'n cynlluniau gwella ymylon ffyrdd gorffenedig, megis datblygiad Ffordd Osgoi Newton. Fel arall, mewn rhai lleoliadau, rydym yn mynd ati i gymysgu isbridd mewn safleoedd megis Pen lôn Llanrwst ac ar hyd yr A479 Talgarth. Mae'r dulliau hyn yn sicrhau bod y pridd sy'n isel mewn maetholion yn cael ei gynnal ac mae hyn yn annog bioamrywiaeth y blodau gwyllt.