Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru'n Ddiogel yn Dwneli Traffyrdd a Chefnffyrdd Cymru

llun o'r awyr twnnel penmaenbach a55

Os yw eich siwrnai yn mynd a chi drwy un o dwneli Traffyrdd a Chefnffyrdd Cymru, mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud pe byddech mewn digwyddiad neu ddamwain.

Fel arfer, nid yw teithio drwy dwnnel yn peri unrhyw berygl. Er hynny, pe bai digwyddiad, oherwyd natur gaeedig twnnel, bydd angen i chi dalu sylw penodol i’ch diogelwch eich hunan, eich teithwyr a defnyddwyr eraill y twnnel.

Mae twneli yn rhoi sialensiau ychwanegol i’r cyhoedd ac i’r gwasanaethau argyfwng pe byddai unrhyw ddigwyddiad. Datblygwyd nifer o nodweddion a gweithdrefnau diogelwch i helpu’r cyhoedd i adael y twnnel yn ddiogel neu i ganiatáu mynediad i’r gwasanaethau argyfwng i reoli unrhyw ddigwyddiad.

Mae’r tudalen hon yn rhoi gwybodaeth am dwneli a chyngor i chi ynglŷn â sut i osgoi bod yn rhan o ddigwyddiad mewn twnnel a sut i edrych ar ôl eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill

Mae chwe thwnnel yn Draffyrdd a Chefnffyrdd Cymru.

Twnnel Conwy, A55

Wedi'i adeiladu ym 1991, hwn oedd y twnnel cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n mesur 1060m, ac yn y twnnel ffordd hiraf yng Nghymru.

Twnnel Penmaenbach, A55

Agorwyd Twnnel Penmaenbach ym 1989 i gludo traffig tua'r gorllewin. Mae'n 658 metr o hyd a chafodd ei chwythellu trwy ochr y bryn.

Twnnel Pentir Penmaenbach, A55

Wedi'i adeiladu ym 1932, torrwyd twnnel Pentir Penmaenbach trwy'r clogwyn â llaw. Disodlodd y ffordd goets wreiddiol a adeiladwyd gan Telford ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Twnnel Pen-y-Clip, A55

Agorwyd y twnnel hwn ym 1994 ar ôl tair blynedd a hanner o waith tyllu i symud fwy na 103,000 metr ciwbig o wenithfaen o'r pentir.

Twnnel Gibraltar, A40

Wedi'i adeiladu ym 1969, mae'r rhain yn bâr o dwneli sy'n cludo'r A40 trwy Gibraltar Hill.

Twnnel Brynglas, M4

Agorwyd y dau dwnnel 360m o hyd ym 1967. Mae'r rhain yn arwyddocaol oherwydd nhw oedd y twneli cyntaf i gael eu hadeiladu ar rwydwaith traffordd Prydain.

 

tunnel safety icon speed limit

Sylwch ar yr holl gyfyngiadau cyflymder ar y lonydd dynesu ac wrth i chi fynd drwy’r twnnel – gwyliwch, gall y rhain newid.

tunnel safety icon fuel gauge

Gwiriwch fod gennych ddigon o danwydd ar gyfer eich siwrnai.

tunnel safety icon lane signals

Sylwch ar yr arwyddion a signalau gan ufuddhau iddynt – Peidiwch byth a defnyddio lôn sy’n dangos croes goch.

tunnel safety icon dipped headlights

Gostyngwch eich prif oleuadau. Tynnwch eich sbectol haul i ffwrdd os ydych yn gwisgo un.

tunnel safety icon hazard warning lights

Os oes mwg neu dân o’ch blaen yn y twnnel, peidiwch â mynd i mewn. Tynnwch i mewn i’r lôn ar yr ochr chwith, stopiwch a rhowch eich
goleuadau rhybudd ymlaen.

 

tunnel safety icon do not stop sign

Peidiwch â stopio oni bai bod argyfwng.

tunnel safety icon space between cars

Cadwch bellter diogel rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen. Dylai cerbydau adael bwlch o leiaf 2 eiliad a dylai cerbyd nwyddau mawr adael bwlch sydd yn o leiaf 4 eiliad.

tunnel safety icon no u-turn

Peidiwch â throi neu facio eich car oni bai bod Swyddog o’r Heddlu neu Swyddog Traffig yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.

tunnel safety icon no smoking

Peidiwch â thaflu sigarennau o fewn cyfyngiadau’r twnnel.

 

tunnel safety icon space between cars

Cadwch eich pellter, hyd yn oed os ydych yn symud yn araf neu wedi stopio - gadewch 5 metr rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen (hyd gar ar gyfartaledd).
 

tunnel safety icon switch off igniton

Diffoddwch eich injan os ydych yn sefyll am hirach nac un munud.

tunnel safety icon hazard warning lights

Rhowch eich goleuadau rhybudd ymlaen wrth gyrraedd tagfeydd yn unol â’r Cod Gefnffordd.

tunnel safety icon public address system

Gwrandewch ar negeseuon dros y system p.a. gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan weithredwr y twnnel.

 

tunnel safety icon hazard warning lights

Rhowch y goleuadau rhybudd ymlaen.




 

tunnel safety icon switch off igniton

Stopiwch eich cerbyd mor agos i’r ochr chwith â phosib a diffoddwch yr injan. Gadewch y goriad yn yr agoriad tanio.

tunnel safety icon exit car on left

Byddwch yn ymwybodol o’r traffig sy’n dod o’r blaen neu’r cefn. Os yn bosib, ewch allan o’ch cerbyd drwy’r drws ar yr ochr chwith. Dylai eich teithwyr wneud hyn hefyd. Os nad ydych yn gallu mynd allan o’ch cerbyd am unrhyw reswm ffoniwch 999. Mae’r twneli yn cael eu monitro yn agos a byddwn yn darparu cymorth cyn gynted â phosib.
 

tunnel safety icon sos phones

Galwch am gymorth o ffôn yn y mannau SOS argyfwng a leolir bob 100 metr ar hyd y twnnel.. Byddwch yn ymwybodol o gerbydau eraill. PEIDIWCH â chroesi’r ffordd gerbydau.

tunnel safety icon information sign

Gwrandewch ar negeseuon dros y system p.a. gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan weithredwr y twnnel.

Peidiwch â cheisio gwneud unrhyw waith trwsio yn y twnnel.

 

tunnel safety icon vehicle fire exit


Os oes mwg neu dân o flaen chi ar y ffordd i mewn i’r twnnel, peidiwch â mynd i mewn iddo. Tynnwch i mewn i’r lôn ar y chwith, stopiwch a rhowch eich goleuadau rhybudd ymlaen.
 

tunnel safety icon vehicle fire

Os ydych chi wedi mynd i mewn i’r twnnel a bod mwg neu dân o’ch blaen, dylech dynnu i mewn i’r ochr chwith a stopio. Diffoddwch yr injan, gadewch y goriadau yn yr agoriad tanio ac ewch allan o’r cerbyd. Gadewch y twnnel ar droed gan ddilyn y llwybr gwacau tuag at borth y twnnel y gwnaethoch yrru drwyddo i ddod i mewn i’r twnnel. Unwaith y byddwch y tu allan i’r twnnel, arhoswch ger y man gwacáu wedi’i arwyddo i gael mwy o gymorth.
 

arwydd ffordd i rybuddio gyrrwyr am tan

Os ydych yn gweld mwg neu dân tu ôl i chi unwaith y byddwch yn y twnnel, parhewch i yrru allan o’r twnnel a pheidiwch â mynd i mewn iddo eto.

tunnel safety icon exit signs

Os yw eich cerbyd ar dân gyrrwch allan o’r twnnel os yn bosib. Os nad yw hyn yn bosib, yna tynnwch i mewn i’r lôn ar y chwith, a diffodd yr injan. Gadewch y goriad yn yr agoriad tanio rhag ofn y bydd angen i’r gwasanaethau argyfwng symud eich cerbyd. Gadewch y cerbyd ar unwaith. Gadewch y twnnel gan ddilyn y llwybr gadael wedi ei arwyddo tuag at borth agosaf y twnnel. Unwaith y byddwch y tu allan i’r twnnel, arhoswch ger y man gwacáu wedi’i arwyddo i gael cymorth.

tunnel safety icon sos phones

Galwch am gymorth o’r ffôn SOS a leolir yn y pwynt gwacáu y tu allan i’r twnnel.

tunnel safety icon information sign

Gwrandewch ar unrhyw negeseuon dros y system p.a. gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan weithredwr y twnnel.

tunnel safety icon fire extinguisher

Mae offer diffodd tân ger bob panel argyfwng yn y twneli.