Dyddiad cychwyn: Hydref 2021 | Dyddiad gorffen: Rhagfyr 2024
Mae rhwydwaith cyfathrebu ffibr optig yn cael ei uwchraddio a'i ymestyn yn Ne a Gorllewin Cymru. Mae'r gwaith yn digwydd ar yr A40 ac yr M4.
Mae'r rhaglen waith hon wedi gor-redeg oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Am ragor o wybodaeth am y rheolaeth traffig gweler y manylion isod.
Bydd cyfres o waith mewn gwahanol leoliadau ar y rhan hon o'r M4 rhwng diwedd Gorffennaf ac Hydref. Bydd y rhain yn cynnwys cau lonydd, y lliain caled a lonydd ymadael ac ymuno dros nos pan fydd angen. Bydd manylion pellach y rhaglen yn cael eu cyhoeddi yn agosach at yr amser.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Traffic Wales ar 0300 123 1213 neu drwy X (Twitter) @TraffigCymruD a Facebbok @TrafficWalesS.