Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A55 Cyffordd 19 Glan Conwy (Cylchfan Black Cat)

Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC), ar ran Llywodraeth Cymru, gyda'r cyfrifoldeb o gyflawni gwaith i wella cyffordd 19 yr A55, gan helpu i'w wneud yn wyrddach ac yn fwy diogel i gerddwyr, beicwyr a modurwyr. Bydd y gwaith yn cynnwys ehangu'r gyffordd , adeiladu croesfannau mwy diogel i gerddwyr a beicwyr, gosod signalau traffig mewn lleoliadau allweddol ac uwchraddio'r goleuadau stryd bresennol i oleuadau LED ynni-effeithlon.

Er fod hi'n bosib fydd rhywfaint o aflonyddwch tymor byr i ddefnyddwyr y ffordd wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, bydd y canlyniad yn sicrhau buddion tymor hir i bob defnyddiwr ffordd.


Teithio'n Diogel

Gwella 'r rhwydwaith beicio a cherdded

  • Bydd 6 croesfan ychwanegol yn cael eu gosod ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn ogystal â llwybr newydd, mwy diogel trwy'r gylchfan. Bydd y llwybrau ar gyfer beicwyr a cherddwyr hefyd yn cysylltu â'r llwybr presennol ar yr A470 i annog teithio egnïol yn yr ardal
  • Gyda'r mesurau hyn ar waith, disgwylir y bydd nifer y damweiniau sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y gyfnewidfa brysur hon yn lleihau o draean.

Teithio'n Well

Lleihau tagfeydd ac amseroedd teithio

  • Bydd signalau traffig yn helpu i reoli tagfeydd ar y slipffyrdd ymadael, gan leihau hyd tagfeydd ynghyd â lleihau cyflymder traffig i wella diogelwch ar y gylchfan.
  • Gallai'r cynllun hwn leihau tagfeydd yn ystod adegau prysur yn y bore a gyda'r nos o dros 50% gan fydd o'n lleihau'r traffig sy'n ciwio  yn ôl trwy'r cylchfan.

Teithio'n Wyrdd

Arbed ynni ac Annog teithio egniol

  • Mae uwchraddo'r goleuadau stryd i rhai LED yn cael eu cynllunio ar yr un pryd â gwelliannau cyffordd i sicrhau y gellir cynnal y rhwydwaith mewn ffordd fwy cost-effeithiol ac cynaliadwy.
  • Yn 2016 cyfrannodd y sector trafnidiaeth yng Nghymru i 6.31 Mt o CO2. Bydd y gwelliant hwn i welededd a diogelwch cerddwyr a beicwyr yn annog mwy o bobl i wneud siwrneiau ar droed neu ar feic, a thrwy hynny yn creu Cymru mwy gwyrdd a glanach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Barn y Cyhoedd

5 men discussing A55 junction


Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael pob agwedd o'r dylunio, adeiladu a gweithredu'r gwelliannau hyn yn yn gywir fel y gallwn leihau anghyfleusterau i'r cyhoedd a sicrhau'r budd mwyaf posibl i ddefnyddwyr y ffordd.

Dyma ddetholiad o'r adborth a gawsom gennych yn ystod ein ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

“Mae'n hen bryd gwneud y gwelliannau hyn ac rydym yn ei gefnogi'n llawn mewn egwyddor, er budd holl ddefnyddwyr y ffyrdd.”

“Mae'r gyffordd bresennol yn hunllef i gerddwyr a byddai'r opsiwn hwn yn mynd i'r afael â hyn."

Roedd cerddwyr a beicwyr a oedd yn ceisio croesi'r gyfnewidfa brysur yn teimlo fel eu bod yn “cymryd eu bywydau yn eu dwylo eu hunain” 

“Fel beiciwr hyderus rwy’n beicio drwy’r gyffordd ond ni fyddwn yn dod â fy mhlant drwodd yma ar benwythnosau gan ei fod yn rhy beryglus. Mae'r cynllun hwn o fudd sylweddol i'r rhwydwaith cerdded a beicio."