Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A40 Gwella Troedffordd Manordeilo

Dyddiad cychwyn: 06/01/2026 Dyddiad gorffen: 06/03/2026 

Gwaith i adeiladu cyswllt troedffordd newydd gyferbyn â'r ffordd gerbydau tua'r de yn dechrau ger Meithrinfa Twts Tywi, gan ymestyn 250 metr i ymyl gogleddol y gymuned. Bydd y gwaith yn dechrau ar 05/01/2026 am 9 wythnos.     

Bydd un lôn (tua'r de) yn cael ei chau ar yr A40 am y tair wythnos gyntaf er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd. Ar ôl i'r wedd gyntaf gael ei chwblhau a phan fydd yn ddiogel, bydd y lôn yn ail-agor ar ddiwedd pob shifft, gyda rheolaeth traffig yn ei le o 08:00–18:30.

Mae Dŵr Cymru yn bwriadu gwneud gwaith uwchraddio hanfodol ar eu cyfarpar yn yr ardal o ddechrau mis Chwefror tan fis Ebrill 2026, ar Rwydwaith yr Awdurdod Lleol yn bennaf. Bydd gwaith ar y Gefnffordd yn cael ei wneud ar ôl cwblhau cynllun gwella'r droedffordd.

Bydd y gwaith yn digwydd ym mis Ionawr a Chwefror pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn llai i leihau aflonyddwch. 

Dim angen gwyriad.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter  @TraffigCymruG @TraffigCymruD