Dyddiad cychwyn: 26/01/2026| Dyddaid gorffen: 27/02/2026
Gwaith draenio hanfodol ar yr A465 ger Lancaster Arms ym Mhandy. Bydd y gwaith yn dechrau ar 26/01/2026 ac mae disgwyl i wedd gyntaf y gwaith ddod i ben ddiwedd mis Chwefror. Gwaith ychwanegol i'w gadarnhau.
Mae angen y prosiect i wella llif draenio priffyrdd a chyrsiau dŵr dros ddarn o'r A465 ym Mhandy, i'r gogledd o'r Fenni. Bydd cwlfertau presennol ac asedau draenio eraill yn cael eu huwchraddio a'u newid.
Bydd cam cychwynnol y gwaith i ddargyfeirio gwasanaethau wrth baratoi ar gyfer y prif gynllun draenio yn cael ei wneud ar y ffordd ochr ddienw dros bedair wythnos rhwng 26/01/2026 a 11/02/2026. Bydd gwaith yn cael ei wneud yn ystod y dydd drwy gau'r ffordd ochr yn llwyr, er y bydd mynediad i eiddo ar gael bob amser. Bydd y ffordd ochr yn aros ar gau am y cyfnod cyfan.
I'w gwblhau, bydd y gwaith yn symud i'r brif A465 a bydd yn cael ei wneud eto yn ystod y dydd, drwy gau lonydd a gosod arwyddion traffig dros dro. Bydd y lôn yn dal ar gau ar gyfer y cyfnod rhwng 12/02/2026 a 27/02/2026, gan newid rhwng lonydd pan fo angen.
Ar gyfer cau'r ffordd ochr, bydd traffig yn cael ei wyro'n lleol ar hyd yr A465 gyfagos.