Diwrnod Cychwyn: 20/10/25 | Diwrnod Gorffen: 12/12/25
Bydd gwaith i osod lloches newydd i gerddwyr ar yr A477 yn Llanteg yn dechrau ar 20/10/2025 am 7 wythnos.
Gwaith i osod lloches newydd i gerddwyr i gynorthwyo cerddwyr sy'n croesi prif ffordd yr A477.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 4 cam:
Cam 1
A477 a Chyffordd Taverspite 20 Hydref i 7 Tachwedd – Gwaith oddi ar y gefnffordd ac yng nghyffordd ffordd y sir gyda rheolaeth traffig Stop/Go ysbeidiol i ganiatáu mynediad i'r safle
Cam 2
Tua'r Dwyrain 9 Tachwedd i 24 Tachwedd – Cau lôn gyda goleuadau traffig 24 awr a fydd yn cael eu staffio yn ystod oriau gwaith.
Cam 3
Tua'r Gorllewin 25 Tachwedd i 11 Rhagfyr – Cau lôn gyda goleuadau traffig 24 awr a fydd yn cael eu staffio yn ystod oriau gwaith, bydd mynediad i'r orsaf betrol yn cael ei gynnal.
Cam 4
Ail-wynebu'r brif ffordd gerbydau i'r ddau gyfeiriad 9 Rhagfyr i 12 Rhagfyr. Bydd y cam hwn o waith yn cael ei wneud dros nos rhwng 18:00 a 06:00.
N/A
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD