Dyddiad dechrau: 18 Mawrth 2026 | Dyddiad gorffen: 21 Mawrth 2026
Bydd gwaith hanfodol i ail-wynebu'r ffordd gerbydau ar ran 5km o'r A48 tua'r gorllewin rhwng Cyffordd Foelgastell a Chyffordd Llanddarog yn dechrau ar 18/03/2026 am dair noson (os yw'r tywydd yn caniatáu).
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros dair noson rhwng 20:00 a 06:00 ble bydd y ffordd gerbydau tua'r gorllewin rhwng Cyffordd Foelgastell a Chyffordd Llanddarog wedi'i chau'n llwyr. Bydd lonydd sengl yn dal ar gau yn ystod y dydd.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud dros nos ym mis Mawrth pan fo llif y traffig yn hanesyddol is, a hynny i leihau'r aflonyddwch.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio yng nghyffordd Cross Hands ar hyd ffordd Pontarddulais/ffordd Caerfyrddin i Drefach ac ar hyd y B4310 i Landdarog.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD