Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A483 Cyffordd 3 Cyfnewidfa Croesfoel at gyfnewidfa C5 - Ffordd yr Wyddgrug

Dyddiad Dechrau: 27/03/2026 Dyddiad Gorffen: 31/03/2026 

Gwaith cyweirio hanfodol – 27/03/2026 tan 31/03/2026 rhwng 20:00 – 06:00

Gwaith i gynnal gwaith cyweirio hanfodol ar y ffordd gerbydau i rannau o’r A483 tua’r gogledd a thua’r de rhwng cyfnewidfa C3 Croesfoel at gyfnewidfa C5 Ffordd Wyddgrug a fydd yn dechrau 27/03/2026 ar gyfer 4 noson.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni dros gyfnod o 4 noson rhwng 20:00 – 06:00 lle bydd y ffordd gerbydau ar gau yn llwyr. Bydd y traffig yn cael ei dargyfeirio fel a ganlyn: 

27/03/2026 – C5 at C4 ar gau tua’r de, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd A541 Ffordd yr Wyddgrug / Regent Street tua Wrecsam, trowch i’r dde yng ngoleuadau traffig Regent Street tua’r A5152 Bradley Road, bydd traffig yn troi i’r dde ar hyd Bradley Road / Ffordd Rhuthun wrth goleuadau traffig A525 Ffordd Rhuthun a dychwelyd i’r A483 yn C4 cyfnewidfa Ffordd Rhuthun.

28/03/2026 – C4 at C5 ar gau tua’r gogledd, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd A525 Ffordd Rhuthun, trowch i’r chwith wrth oleuadau traffig Ffordd Rhuthun ar hyd A5125 Bradley Road, yna parhewch ar y system unffordd Central Road ar A541 Regent Street / Ffordd yr Wyddgrug a dychwelyd at C5 cyfnewidfa Ffordd Wyddgrug.

29/03/26 - 31/03/2026 – C3 at C4 ar gau tua’r gogledd, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd A5152 Wrexham Road / Ruabon Road ac yn y gylchfan cymrwch y troad cyntaf ar A5152 Victoria Road, trowch i’r chwith yng ngoleuadau traffig A5152 Victoria Road ar hyd A525 Ffordd Rhuthun ac ailymuno â’r A483 yng nghylchfan C4 Ffordd Rhuthun.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni pan fydd llif traffig yn is yn hanesyddol i leihau aflonyddwch.

For further information, please contact Traffic Wales on 0300 123 1213 or via X @TraffigCymruG