Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A487 Erglodd, Tre Taliesin, Ceredigion.

Dyddiad Cychwyn: 02/03/26 - Dyddiad Gorffen: 13/03/26

Gwaith Ail-wynebu Hanfodol ar y Ffordd Gerbydau 02/03/26 – 13/03/26 rhwng 19:00 a 06:00. Fodd bynnag, ni fydd y gwaith yn cael ei gyflawni ar nos Sadwrn a nos Sul.

Bydd gwaith atgyweirio hanfodol i wyneb y ffordd gerbydau ar oddeutu ⁠1.2km o'r A487 Erglodd, Tre Taliesin, Ceredigion yn dechrau ar 02/03/26 i 13/03/26, ac eithrio’r penwythnos.

Nid yw'r ffordd yn ddigon llydan i wneud y gwaith yn ddiogel wrth gadw o leiaf un lôn o draffig ar gyfer cerbydau, felly mae angen cau'r ffordd yn llwyr dros nos. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 19:00 a 06:00 drwy gau’r ffordd gerbydau yn llwyr, fodd bynnag, bydd y gwaith yn cael ei atal ar nos Sadwrn a nos Sul. Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fydd llif y traffig yn llai, a hynny i darfu cyn lleied â phosib. 

Bydd y llwybr amgen i draffig sy'n teithio i gyfeiriad y gogledd o'r pwynt cau deheuol yn mynd ar hyd yr A487 i'r de at Bow Street, yr A4159 i'r de at Comins Coch, yr A44 i'r dwyrain i Langurig, yr A470 i'r gogledd-ddwyrain i Gaersws, yr A470 i'r gogledd-orllewin i Lantwymwyn ac yna ar yr A489 i'r de-orllewin i Fachynlleth gan ail-ymuno â'r A487. I'r gwrthwyneb i draffig sy'n teithio tua'r de o bwynt gogleddol y ffordd sydd wedi cau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG