Llwyddwyd i gwblhau cam cyntaf y gwaith yn fuan yn 2025 - ar yr A40 o'r gyffordd wrth Heol y Castell at y groesfan sebra wrth Orsaf Dân Crucywel. Mae ail gam y gwaith ar yr A40 yn ymestyn o'r groesfan sebra wrth Orsaf Dân Crucywel at fynedfa gorsaf betrol Asda. Y bwriad yw gwneud y gwaith rhwng dydd Llun, 27 Ebrill a dydd Gwener, 19 Mehefin 2026. Noder: Bydd unrhyw gyfathrebu'n cael ei gyflwyno cyn i'r camau hyn gael eu gweithredu.
Oherwydd cymhlethdod cyflawni’r gwaith, bydd angen trefniadau rheoli traffig amrywiol trwy gydol y rhaglen. Mae dadansoddiad manwl o'r cyfyngiadau a'r rhaglen sydd dan sylw isod.
Oherwydd bod cyflwr ffordd gerbydau'r A40 yng Nghrucywel yn dirywio, comisiynodd ACGCC gwmni Amey ar ran Llywodraeth Cymru, i ddatblygu dyluniad a rhaglen i adnewyddu'r palmant ar gyfer y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Bydd y gwaith hwn yn helpu i wella gwytnwch y rhwydwaith gan leihau gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol yn y dyfodol.
Cam 1 o'r gwaith — wedi'i ymestyn ar hyd yr A40 o'r gyffordd yn Ffordd y Castell at y groesfan sebra ger Gorsaf Dân Crucywel a darparwyd hyn yn llwyddiannus yn nechrau 2025.
Erbyn hyn rydym yn paratoi i gyflwyno Cam 2, sydd wedi'i drefnu i ddigwydd rhwng Ebrill a Mehefin 2026. Mae Cam 2 yn cynnwys ail-wynebu o'r groesfan sebra ger Gorsaf Dân Crucywel at y fynedfa i orsaf betrol Asda. Er mwyn gwneud y gorau o'r mesurau rheoli traffig dros dro (TTM) sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwn, rydym hefyd yn cynnwys nifer o gynlluniau gwella gyda'r nod o wella'r seilwaith i gerddwyr a'r system ddraenio. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Amnewid y draeniau llinellol presennol ac uwchraddio systemau draenio cyrbau cyfunol.
- Adnewyddu asedau draenio tanddaearol? diffygiol.
- Adnewyddu arwyddion traffig ar ddiwedd eu hoes.
- Gwelliannau i'r groesfan sebra bresennol y tu allan i Westy'r Bear.
- Gwelliant i nifer o groesfannau isel presennol ar hyd yr A40.
Mae dadansoddiad manwl o'r trefniadau a'r dyddiadau rheoli traffig dros dro arfaethedig ar gael ar ein tudalen am y gwaith yma.
Canllaw yn unig yw'r holl ddyddiadau a'r amseroedd a nodir uchod a gallant newid, oherwydd oedi annisgwyl fel tywydd gwael.
- Nid oes unrhyw iawndal statudol i bobl neu fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan lonydd yn cau / rheolaeth traffig dros dro. Gwnaed pob ymdrech i leihau'r tarfu ar deithiau.