Dyddiad dechrau: 08/06/2026 | Dyddiad gorffen: 16/06/2026
Gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ran 1.5km o gerbydlon Cefnffordd yr A40 i'r gorllewin o Felin-wen a rhan 1.7km i'r dwyrain o Felin-wen, Sir Gâr.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 08/06/2026 am gyfnod o saith noson.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros saith noson rhwng 8 a 17 Mehefin 2026 rhwng 20:00 a 06:00 a bydd y ffordd gerbydau yn cau yn llwyr.
Bydd y gwaith ail-wynebu yn ymestyn o Gylchfan Abergwili tuag at Felin-wen am oddeutu 1.5km ac ymhellach i'r dwyrain o Felin-wen tuag at Nantgaredig am 1.7km.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos a bydd y ffordd gerbydau yn cau yn llawn.
Llwybr y prif wyriad ar gyfer cerbydau sy'n teithio tua'r dwyrain yw defnyddio'r A48 o Gyffordd Pensarn tuag at Gyffordd 49 yr M4, Cylchfan Pont Abraham, ac i gyfeiriad y gogledd ar hyd yr A483 tuag at Landeilo lle mae modd ail-ymuno â'r A40. Bydd y gwyriad i'r gwrthwyneb i gerbydau sy'n teithio tua'r gorllewin.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud drwy gau'r ffordd yn llwyr i sicrhau diogelwch y gweithlu a'r cyhoedd sy'n teithio.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD