Dyddiad Dechrau: 27/04/26 Dyddiad Gorffen: 16/06/26
Llwyddwyd i gwblhau cam cyntaf y gwaith yn fuan yn 2025 - ar yr A40 o'r gyffordd wrth Heol y Castell at y groesfan sebra wrth Orsaf Dân Crucywel. Mae ail gam y gwaith ar yr A40 yn ymestyn o'r groesfan sebra wrth Orsaf Dân Crucywel at fynedfa gorsaf betrol Asda. Y bwriad yw gwneud y gwaith rhwng dydd Llun, 27 Ebrill a dydd Gwener, 19 Mehefin 2026. Mae'r gwaith wedi gorffen yn fuan ar y 16eg o Fehefin.
Mae angen gwneud gwaith hanfodol i osod wyneb newydd a gwneud gwelliannau er mwyn rhoi sylw i rannau sydd wedi dirywio ac yn diffygiol, gan ddarparu arwyneb mwy llyfn/mwy diogel i ddefnyddwyr y ffordd, yn ogystal â gwella'r draenio a'r isadeiledd i gerddwyr.
Oherwydd cymhlethdod cyflawni’r gwaith, bydd angen trefniadau rheoli traffig amrywiol trwy gydol y rhaglen. Mae dadansoddiad manwl o'r cyfyngiadau a'r rhaglen sydd dan sylw isod:
Manylion y Cyfyngiadau | Dyddiad ac Amser Dechrau** | Dyddiad ac Amser Gorffen** | Nodiadau |
Yr A40, o'r gyffordd â'r Stryd Fawr at y gyffordd yn Greenhill Way: Cau'n gyfan gwbl yn ystod y nos pan fo llif y traffig yn is. | 13/07/2026 19:00 | 17/07/2026 07:00 | Gwaith yn ystod y nos yn unig rhwng 19:00 a 07:00 o ddydd Llun i ddydd Iau. |
Yr A40 wrth y gyffordd â Heol Brynant: Bydd y gwaith yn ystod y nos yn defnyddio oleuadau traffig dros dro. | 13/07/2026 19:00 | 17/07/2026 07:00 | Gwaith yn ystod y nos yn unig rhwng 19:00 a 07:00 o ddydd Llun i ddydd Iau. |
** mae'r dyddiadau yn rhai amodol, a gallant newid
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG