Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Cyffordd 33 yr M4, Amnewid Cymal Ehangu ar y Drosbont Ddwyreiniol

Dyddiad dechrau : 10/11/2025 | Dyddiad gorffen : 22/11/2025

M4 J33 Overbridge

Gwaith cynnal a chadw strwythurol hanfodol.

10/11/2025 - 22/11/2025 (20:00 - 06:00)

Cau Trosbont Ddwyreiniol cylchfan yr A4232 yn llawn wrth Gyffordd 33 yr M4 (13 noson).

Cau'r A4232 yn llwyr tua'r gogledd o'r ffordd ymuno â chylchfan Croes Cwrlwys tua'r gogledd i gylchfan C33 yr M4 (13 noson).

 

Ffordd ddim ar gau dros nos ar y dyddiadau canlynol oherwydd digwyddiadau yng Ngaerdydd.

-11/11/25

-12/11/25 

-18/11/25

Cau Trosbont Ddwyreiniol cylchfan yr A4232 yn llawn wrth Gyffordd 33 yr M4

Gwyriad: 

O Gyffordd 33 yr M4 dilynwch yr M4 tua'r dwyrain i Gyffordd 32 ac yna dilynwch yr M4 tua'r gorllewin yn ôl i Gyffordd 33.

Cau'r A4232 yn llwyr tua'r gogledd o'r ffordd ymuno â chylchfan Croes Cwrlwys tua'r gogledd i gylchfan C33 yr M4 

Gwyriad:

O gylchfan Croes Cwrlwys dilynwch yr A48 tua'r dwyrain i gylchfan Gabalfa. Dilynwch yr A470 tua'r gogledd i C32 yr M4 ac yna dilynwch yr M4 tua'r gorllewin i Gyffordd 33 yr M4. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X a Facebook.