Dyddiad dechrau: 22/06/2026 | Dyddiad gorffen: 26/06/2026
Gwaith amnewid cymal ehangu a gwaith ail-wynebu hanfodol i Bont Ffordd Pentre yr M4 rhwng Cyffordd 47 a Chyffordd 48.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 5 noson rhwng 20:00 a 06:00 gan gau'r ffordd gerbydau yn llwyr rhwng C47 a C48 ar yr M4.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ym mis Mehefin pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn is, a hynny i leihau'r aflonyddwch.
Gwyriad i'r Gorllewin: Bydd traffig yn cael ei wyro yn C47 (Penllergaer) ar hyd yr A4240, yna yn dilyn yr A484 ac A4138. Bydd traffig yn ailymuno â'r M4 ar hyd ffordd ymuno C48 (Hendy) tua'r gorllewin.
Gwyriad i'r Dwyrain: Bydd traffig yn cael ei wyro yn C48 (Hendy) tuag at yr A4138, yna yn dilyn yr A484 ac A4240. Bydd traffig yn ailymuno â'r M4 ar hyd ffordd ymuno C47 (Penllergaer) tua'r dwyrain.