Dyddiad Cychywn: 05/06/2026 - Dyddiad Gorffen: 13/06/2026
Bydd gwaith ail-wynebu hanfodol ar ffordd gerbydau yr M4 rhwng C45 Ynysforgan i C44 Lonlas i gyfeiriad y dwyrain a bydd y gwaith yn dechrau ar 05/06/2026 am 10 noson.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 10 noson rhwng 20:00 - 06:00 o’r gloch a bydd y ffordd gerbydau'n cael ei chau'n llwyr rhwng C45 a C44. Gwneir y gwaith i gyfeiriad y dwyrain.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ym mis Mehefin 2026 pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn is, a hynny i leihau'r aflonyddwch.
Bydd traffig sy'n mynd i gyfeiriad y Dwyrain ar yr M4 yn gadael yr M4 yng nghyffordd 45 gan gymryd y bedwaredd allanfa gan ymuno â'r A4067. Yna, bydd traffig yn gadael y ffordd gerbydau i gyfeiriad Treforys a Llansamlet ar yr A48. Ar y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf gan ymuno â ffordd Clase. Cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan gan ymuno â'r A48, parhewch ar yr A48 tan gylchfan C44 gan gymryd y drydedd allanfa gan ail-ymuno â'r M4.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TrafficWalesN/@TrafficWalesS