Dyddiad dechrau: 29/09/2025 | Dyddiad gorffen: 19/12/2025
Bwriedir gwneud gwaith i uwchraddio arwyddion negeseuon newidiol electronig rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2025.
Mae oes rhai arwyddion negeseuon ar y rhwydwaith ffyrdd strategol wedi dod i ben ac maent yn anodd i'w cynnal a'u cadw, oherwydd diffyg darnau sbâr. Rydym yn bwriadu uwchraddio hyd at 19 safle i gael y dechnoleg arwyddion negeseuon ddiweddaraf. Bydd technoleg arwyddion LED mwy newydd yn dod ag arbedion ynni a bydd yr offer yn fwy dibynadwy.
Mae mwyafrif yr arwyddion sydd i'w newid ar yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru. Rydym yn targedu ardaloedd allweddol a fyddai'n elwa fwyaf o'r arwyddion hyn, i roi gwybod i ddefnyddwyr y ffordd pan fydd rhywbeth yn digwydd neu pan fydd gwaith ffordd ar y gweill.
Bydd strwythurau cynhaliol presennol yr arwyddion yn cael eu hailddefnyddio, i gyfyngu ar allyriadau carbon, costau ac unrhyw darfu sy'n gysylltiedig â'r gwaith uwchraddio.
Bydd y rhannau hynny o'r arwyddion sy'n gweithio yn cael eu tynnu a'u cadw fel darnau sbâr. Bydd hyn yn ein helpu i barhau i gynnal a chadw a thrwsio arwyddion hŷn sy'n dal i gael eu defnyddio mewn llefydd eraill ar y rhwydwaith.
Bydd rhan fwyaf y gwaith yn cael ei wneud wrth gau lonydd dros nos. Lle bo'n bosibl, bydd gwaith hefyd yn cael ei gyfuno â gwaith arall sydd ar y gweill i leihau ar ddulliau rheoli traffig sy'n cael eu defnyddio ar y rhwydwaith.
Dim angen gwyriad.