Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Yr A40 Fferm Millbrook, Dwyrain Aberhonddu (Cylchfan Brynich i Lanhamlach) - Adfer Marciau Ffyrdd

Dyddiad Cychwyn: 27/01/26 | Dyddiad Gorffen: Mawrth 2026

Image A40 Millbrook

Mae rhan o’r A40 ffordd ddeuol rhwng Cylchfan Brynich a phentref Llanhamlach (tua 2.7km) yn destun adolygiad diogelwch yn dilyn newid diweddar yn y data damweiniau ar hyd y llwybr. Nod yr adolygiad hwn yw gwella diogelwch defnyddwyr y ffordd a lleihau’r risg o wrthdrawiadau.

 

Mae’r gwaith ar y safle bellach wedi’i gwblhau, oni bai am ail-osod y llinellau gwyn a’r stydiau ffordd. Yn anffodus, mae’r tywydd diweddar wedi atal cwblhau’r elfen hon o’r prosiect.

Er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd, bydd rheolaeth traffig ar waith yn y ddau gyfeiriad am gyfnod dros dro a chyfyngiad cyflymder o 40 mya yn parhau mewn lle.

Diolch i bawb am eich amynedd a’ch cydweithrediad.

Yn ystod y cyfnodau hyn, bydd gwyriadau ar waith ar hyd yr A470, A438 ac A479 rhwng Cylchfan Brynich a Chrughywel.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG