Os yw eich siwrnai yn mynd a chi drwy un o dwneli Traffyrdd a Chefnffyrdd Cymru, mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud pe byddech mewn digwyddiad neu ddamwain.
Fel arfer, nid yw teithio drwy dwnnel yn peri unrhyw berygl. Er hynny, pe bai digwyddiad, oherwyd natur gaeedig twnnel, bydd angen i chi dalu sylw penodol i’ch diogelwch eich hunan, eich teithwyr a defnyddwyr eraill y twnnel.
Mae twneli yn rhoi sialensiau ychwanegol i’r cyhoedd ac i’r gwasanaethau argyfwng pe byddai unrhyw ddigwyddiad. Datblygwyd nifer o nodweddion a gweithdrefnau diogelwch i helpu’r cyhoedd i adael y twnnel yn ddiogel neu i ganiatáu mynediad i’r gwasanaethau argyfwng i reoli unrhyw ddigwyddiad.
Mae’r tudalen hon yn rhoi gwybodaeth am dwneli a chyngor i chi ynglŷn â sut i osgoi bod yn rhan o ddigwyddiad mewn twnnel a sut i edrych ar ôl eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill
Mae chwe thwnnel yn Draffyrdd a Chefnffyrdd Cymru.
Twnnel Conwy, A55
Wedi'i adeiladu ym 1991, hwn oedd y twnnel cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n mesur 1060m, ac yn y twnnel ffordd hiraf yng Nghymru.
Twnnel Penmaenbach, A55
Agorwyd Twnnel Penmaenbach ym 1989 i gludo traffig tua'r gorllewin. Mae'n 658 metr o hyd a chafodd ei chwythellu trwy ochr y bryn.
Twnnel Pentir Penmaenbach, A55
Wedi'i adeiladu ym 1932, torrwyd twnnel Pentir Penmaenbach trwy'r clogwyn â llaw. Disodlodd y ffordd goets wreiddiol a adeiladwyd gan Telford ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Twnnel Pen-y-Clip, A55
Agorwyd y twnnel hwn ym 1994 ar ôl tair blynedd a hanner o waith tyllu i symud fwy na 103,000 metr ciwbig o wenithfaen o'r pentir.
Twnnel Gibraltar, A40
Wedi'i adeiladu ym 1969, mae'r rhain yn bâr o dwneli sy'n cludo'r A40 trwy Gibraltar Hill.
Twnnel Brynglas, M4
Agorwyd y dau dwnnel 360m o hyd ym 1967. Mae'r rhain yn arwyddocaol oherwydd nhw oedd y twneli cyntaf i gael eu hadeiladu ar rwydwaith traffordd Prydain.
Sylwch ar yr holl gyfyngiadau cyflymder ar y lonydd dynesu ac wrth i chi fynd drwy’r twnnel – gwyliwch, gall y rhain newid. |
|
Gwiriwch fod gennych ddigon o danwydd ar gyfer eich siwrnai. |
|
Sylwch ar yr arwyddion a signalau gan ufuddhau iddynt – Peidiwch byth a defnyddio lôn sy’n dangos croes goch. |
|
Gostyngwch eich prif oleuadau. Tynnwch eich sbectol haul i ffwrdd os ydych yn gwisgo un. |
|
Os oes mwg neu dân o’ch blaen yn y twnnel, peidiwch â mynd i mewn. Tynnwch i mewn i’r lôn ar yr ochr chwith, stopiwch a rhowch eich |
Peidiwch â stopio oni bai bod argyfwng. |
|
Cadwch bellter diogel rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen. Dylai cerbydau adael bwlch o leiaf 2 eiliad a dylai cerbyd nwyddau mawr adael bwlch sydd yn o leiaf 4 eiliad. |
|
Peidiwch â throi neu facio eich car oni bai bod Swyddog o’r Heddlu neu Swyddog Traffig yn eich cyfarwyddo i wneud hynny. |
|
Peidiwch â thaflu sigarennau o fewn cyfyngiadau’r twnnel. |
Cadwch eich pellter, hyd yn oed os ydych yn symud yn araf neu wedi stopio - gadewch 5 metr rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen (hyd gar ar gyfartaledd). |
|
Diffoddwch eich injan os ydych yn sefyll am hirach nac un munud. |
|
Rhowch eich goleuadau rhybudd ymlaen wrth gyrraedd tagfeydd yn unol â’r Cod Gefnffordd. |
|
Gwrandewch ar negeseuon dros y system p.a. gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan weithredwr y twnnel. |
Rhowch y goleuadau rhybudd ymlaen. |
|
Stopiwch eich cerbyd mor agos i’r ochr chwith â phosib a diffoddwch yr injan. Gadewch y goriad yn yr agoriad tanio. |
|
Byddwch yn ymwybodol o’r traffig sy’n dod o’r blaen neu’r cefn. Os yn bosib, ewch allan o’ch cerbyd drwy’r drws ar yr ochr chwith. Dylai eich teithwyr wneud hyn hefyd. Os nad ydych yn gallu mynd allan o’ch cerbyd am unrhyw reswm ffoniwch 999. Mae’r twneli yn cael eu monitro yn agos a byddwn yn darparu cymorth cyn gynted â phosib. |
|
Galwch am gymorth o ffôn yn y mannau SOS argyfwng a leolir bob 100 metr ar hyd y twnnel.. Byddwch yn ymwybodol o gerbydau eraill. PEIDIWCH â chroesi’r ffordd gerbydau. |
|
Gwrandewch ar negeseuon dros y system p.a. gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan weithredwr y twnnel. |
|
Peidiwch â cheisio gwneud unrhyw waith trwsio yn y twnnel. |
|
|
Os ydych chi wedi mynd i mewn i’r twnnel a bod mwg neu dân o’ch blaen, dylech dynnu i mewn i’r ochr chwith a stopio. Diffoddwch yr injan, gadewch y goriadau yn yr agoriad tanio ac ewch allan o’r cerbyd. Gadewch y twnnel ar droed gan ddilyn y llwybr gwacau tuag at borth y twnnel y gwnaethoch yrru drwyddo i ddod i mewn i’r twnnel. Unwaith y byddwch y tu allan i’r twnnel, arhoswch ger y man gwacáu wedi’i arwyddo i gael mwy o gymorth. |
|
Os ydych yn gweld mwg neu dân tu ôl i chi unwaith y byddwch yn y twnnel, parhewch i yrru allan o’r twnnel a pheidiwch â mynd i mewn iddo eto. |
|
Os yw eich cerbyd ar dân gyrrwch allan o’r twnnel os yn bosib. Os nad yw hyn yn bosib, yna tynnwch i mewn i’r lôn ar y chwith, a diffodd yr injan. Gadewch y goriad yn yr agoriad tanio rhag ofn y bydd angen i’r gwasanaethau argyfwng symud eich cerbyd. Gadewch y cerbyd ar unwaith. Gadewch y twnnel gan ddilyn y llwybr gadael wedi ei arwyddo tuag at borth agosaf y twnnel. Unwaith y byddwch y tu allan i’r twnnel, arhoswch ger y man gwacáu wedi’i arwyddo i gael cymorth. |
|
Galwch am gymorth o’r ffôn SOS a leolir yn y pwynt gwacáu y tu allan i’r twnnel. |
|
Gwrandewch ar unrhyw negeseuon dros y system p.a. gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan weithredwr y twnnel. |
|
Mae offer diffodd tân ger bob panel argyfwng yn y twneli. |