Dyddiad Dechrau: Gwanwyn 2021 | Dyddiad Cwblhau: Canol 2025
Bydd yr A465 o Dowlais Top i Hirwaun yn cael ei newid i 2 lôn yn y ddau gyfeiriad.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler dolenni Llywodraeth Cymru ar y dde, am wybodaeth ar y rheolaeth traffig gweler y manylion isod.
Ffordd ar gau dros y penwythnos - 20/05/22 20:00 - 23/05/22 06:00
Mae angen cau'r ffordd dros y penwythnos i wneud gwaith na ellir ei gwblhau'n ddiogel tra bod y ffordd ar agor neu o dan reolaeth traffig.
Er mwyn cwblhau'r gwaith ffordd cymhleth a hirdymor hwn, ar adegau, bydd angen i'r contractwr:
- gostwng y ffordd o 3 lôn i 2.
- cau rhannau o'r ffordd dros nos neu dros benwythnosau
- defnyddio goleuadau traffig i reoli llif traffig yn ystod y gwaith.
Er diogelwch, mae'r terfyn cyflymder yn cael ei ostwng i 40mya. Bydd hyn yn cael ei orfodi yn yr un modd â'r terfyn cyflymder presennol gan ddefnyddio camerâu cyflymder cyfartalog. Bydd adferiad am ddim ar gael i gerbydau sy'n torri i lawr yn yr ardal gwaith.
Penododd Llywodraeth Cymru Future Valleys fel eu partner sector i helpu i gyflawni'r cynllun. Dydy'r Asiant Cefnffyrdd De Cymru ddim yn gyfrifol am gwaith cynnal a chadw ar y rhan yma o'r ffordd.
Dilynwch @TraffigCymruD ar Trydar am y rheolaeth traffig diweddaraf ond bydd pob ymholiad am y gwaith yn cael ei gyfeirio at dîm Future Valleys
I adrodd ar ddigwyddiadau neu faterion ar y rhwydwaith, ffoniwch ystafell reoli'r A465 ar 0800 865 4650. Mae'r llinell ar gael 24/7.
Ar gyfer ymholiadau neu gwynion cymunedol, ffoniwch 0776 245 1850 neu e-bostiwch: [email protected].