Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gwaith sefydlogi’r pridd yn Halfway, A40: Cwestiynau Cyffredin

Mae'r llethr ar hyd yr A40 rhwng Halfway a Llanymddyfri yn dirywio oherwydd tirlithriadau bychain. Mae angen atgyweirio'r rhan hon o'r ffordd a sefydlogi’r tir cyn gynted â phosibl. Mae'r gwaith yn cynnwys:

• Torri'r llethr presennol

• Defnyddio technegau hoelio i’r pridd i atal dirywiad pellach.

• Gosod system ddraenio newydd a rhwystr diogelwch

Mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor y ffordd, gan atal dirywiad pellach allai arwain at gau yn y tymor hir. Mae'r dyluniad ar gyfer y gwaith atgyweirio parhaol wedi'i gwblhau, ac mae angen cau ffyrdd ar gyfer agweddau penodol o'r gwaith. 

Mae'r A40 yn yr adran hon yn llai na 7 medr o led, gyda lle cyfyngedig ar y ddwy ochr: llethr i'r ochr orllewinol ac arglawdd gydag Afon Gwydderig ar yr ochr ddwyreiniol. Mae angen lled cyfan y ffordd i gyflawni'r gwaith angenrheidiol yn ddiogel. Mae ffyrdd sydd wedi cau wedi'u rhaglennu i osgoi cyfnodau prysur yn ystod yr wythnos, gan leihau’r aflonyddwch i deithwyr cymaint â sy’n bosibl. Y tu allan i'r cyfnodau hanfodol o gau ffyrdd, cynhelir gwaith gydag un lôn ar gau gan ddefnyddio signalau traffig dros dro, er mwyn rhoi mynediad i’r gwaith yn ystod cyfnodau yn ystod yr wythnos. Bydd terfyn cyflymder dros dro o 40mya hefyd ar waith yn ystod y cyfnod gwaith. Bydd angen i'r lôn tua'r gorllewin aros yn ei lle y tu allan i gyfnodau cau'r ffordd er mwyn amddiffyn gyrwyr rhag ansefydlogrwydd dros dro y llethr, tra cynhelir y gwaith. Byddwn yn adolygu hyn wrth i'r gwaith fynd rhagddo a byddwn yn cael gwared o gau’r ffordd pan fydd modd yn ystod y gwaith.

Nid oes cyfleusterau i gerddwyr ar y rhan hon o'r ffordd o ystyried lleoliad gwledig y safle. Bydd mynediad ar gael i feicwyr drwy’r gwaith pan fo'n bosibl a bydd yn dibynnu ar natur y gwaith.

Bydd mynediad drwy'r gwaith yn cael ei ddarparu i gerbydau brys pan fydd y ffordd wedi cau.

Mae ffyrdd ar gau ar benwythnosau a chyda'r nos er mwyn osgoi amharu ar wasanaethau bws ysgol.

Bydd y contractwyr yn gweithio rhwng 7am a 6pm wrth gau'r ffordd. Bydd hyn yn caniatáu i'r gwaith gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Oherwydd natur heriol y gwaith, sy'n golygu gweithredu ar lethrau serth a chael gwared ar goed mawr a gwreiddiau, nid yw'n ddiogel cyflawni'r tasgau hyn yn ystod y nos. Mae amserlen y dydd yn sicrhau diogelwch y gweithlu a chynnydd amserol y prosiect.

Oherwydd nifer cyfyngedig o gefnffyrdd (prif ffyrdd A) sy’n y rhan hon o Gymru, mae'r gwyriad yn hir. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gerbydau nwyddau trwm ddilyn y llwybr hwn, gan nad oes dewisiadau amgen addas ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Bydd arwyddion clir hefyd yn dangos na all cerbydau mawr ffitio trwy rai ardaloedd, gan eu cyfeirio at y dargyfeiriad priodol.