Diweddariad: Ni fydd y porthladd yn ail-agor nes hysbysiad pellach.
Mae porthladd Caergybi ar gau ar hyn o bryd oherwydd difrod sylweddol a achoswyd gan Storm Darragh. Ni fydd fferïau yn hwylio'n eto hyd nes y bydd archwiliadau strwythurol hanfodol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau diogelwch.
Rydym yn annog pob teithiwr:
- Peidiwch â theithio i Borthladd Caergybi.
- Peidiwch â stopio ar yr A55. Mae'n anghyfreithlon ac yn beryglus.
- Osgowch barcio mewn ardaloedd preswyl a pheidiwch â thaflu sbwriel.
Dylai'r rhai sydd angen casglu trelars gysylltu â'r porthladd yn uniongyrchol am gymorth.
Mae hwn yn cael ei gydlynu gan Awdurdod y Porthladd, Stena Line, Irish Ferries, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Sir Ynys Môn i sicrhau diogelwch y cyhoedd a lleihau amhariad.
Diolch i chi am eich cydweithrediad a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi.
Mae'r diweddariadau ar fferiau sydd wedi eu canslo ac amseroedd hwylio o Stena Line ac Irish Ferries ar gael trwy'r dolenni isod: