Dyddiad cychwyn: 20/01/25 | Dyddiad gorffen: 30/04/25
Byddwn yn cynnal gwaith hanfodol i ailadeiladu mur gynhaliol sy'n dal yr A470 rhwng Talerddig a Llanbrynmair.
Byddwn yn cloddio'r ffordd gerbydau yn llwyr er mwyn ailadeiladu'r wal, ac felly nid oes dewis heblaw cau'r ffordd rhwng y dyddiadau isod.
20 Ionawr - 11 Ebrill
- A470 Talerddig ar gau yn gyfan gwbl i'r ddau gyfeiriad.
11-16 Ebrill
- Goleuadau traffig 2 ffordd ar yr A470 Talerddig.
Bydd yr A470 ar gau am 24 awr y dydd i bob cerbyd pan fydd y ffordd wedi cau. Caiff cerddwyr a beicwyr fynediad. Bydd taffic tua'r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio trwy Gaersws, Y Drenewydd (A483), Y Trallwng a Mallwyd (A458) i ailymuno â'r llwybr yng Nglantwymyn.
Bydd traffig tua'r dwyrain yn dilyn y gwyriad uchod.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG a Facebook @TraffcWalesG.