Yn Hydref 2023 fe wnaeth mur gynhaliol oedd yn cynnal yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach wedi syrthio’n rhannol, a bu rhaid gosod mesuriadau argyfwng, a chau’r ffordd. Yn ystod y cyfnod hwn gwnaed gwaith i sefydlogi'r ffordd gerbydau er mwyn caniatáu i'r A470 ailagor gyda goleuadau traffig ar waith i gau'r lôn tua'r gorllewin. Mae'r trefniant hwn wedi aros yn ei le er mwyn cael gwared ar unrhyw lwytho traffig o'r ymyl gwan.
Roedd y gwaith atgyweirio brys hwn a'r rheolaeth traffig cysylltiedig yn ateb dros dro a roddwyd ar waith i gadw traffig i lifo ar yr A470 tra datblygwyd datrysiad parhaol. Mae gwaith dylunio ar y gwaith atgyweirio parhaol bellach wedi'i gwblhau, ac mae angen cau ffyrdd nawr er mwyn adeiladu strwythur newydd a fydd yn caniatáu i'r ffordd ailagor yn llawn heb oleuadau traffig.