Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A487 Adnewyddu Cwlfer Royal Oak: Gwaith Galluogi

Dyddiad cychwyn: 20/10/2024 | Dyddiad gorffen: 10/11/2024

a487 royal oak culvert

Gwaith galluogi hanfodol i ddargyfeirio offer gwasanaeth telathrebu cyn i'r cwlfer cael ei adnewyddu yn 2025. Bydd y gwaith yn dechrau ar 20/10/2024 am 4 Sul yn olynol.
 

20, 27, Hydref a 3, 10 Tachwedd 9:00-19:00

  • Bydd yr A487 ar gau rhwng Ffordd Parrog a Stryd y Farchnad.
  • Bydd goleuadau traffig dros dro ar Stryd Uchaf y Bont a Stryd Uchaf y Gorllewin.
  • Bydd cyfyngiadau parcio ar Stryd y Farchnad yn ystod yr adegau hyn

Mae'r gwaith galluogi hyn yn cael ei wneud ar ddydd Sul er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar wasanaethau trafnidiaeth a busnesau lleol.

Disgwylir i'r prif waith cwlfer ddechrau ym mis Ionawr 2025 a bydd hyn yn golygu cloddio'r ffordd, tynnu'r hen cwlfer, sefydlogi'r tir cyfagos gan adeiladu'r cwlfer newydd, ac yna ailadeiladu'r ffordd. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn agosach at yr amser.

Gwyriad ar gyfer traffig cefnffyrdd

Bydd cerbydau tua'r dwyrain yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A487 tua'r gorllewin i Abergwaun, tua'r de A40 i Hwlffordd, tua'r dwyrain A40 i Gylchfan Penblewin a'r A478 tua'r gogledd i Aberteifi i ail-ymuno â'r A487: i'r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau tua'r gorllewin.

 

Bydd llwybr dargyfeirio lleol ar gyfer ceir a faniau bach (llai na 3.5T) ar hyd y Stryd Uchaf y Bont/Stryd Uchaf y Gorllewin. Mae hon yn ffordd trac sengl sy'n anaddas ar gyfer cerbydau mawr, a cherbydau dros 3.5T. Bydd llif traffig ar hyd y ffordd hon yn cael ei reoli gan ddefnyddio goleuadau traffig dwy ffordd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TraffcWalesS.