Dyddiad Dechrau: 18/07/2025| Dyddiad Cwblhau: 30/08/2025
Bydd gwaith i adnewyddu dec Pont Maes y Gwernen yr M4 yn ddechrau ar Gorffennaf 18 am chwe wythnos.
Bydd angen cau y ffordd yn llwyr i adnewyddu dec pont Maes y Gwernen dros yr M4 wrth ymgymryd â'r gwaith.
Bydd y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gwblhau yn ystod gwyliau’r haf er mwyn lleihau aflonyddwch i Ysgol Gyfun Treforys.
Bydd angen cau'r M4 yn llwyr i arolygu o dan pont Maes y Gwernen ar y dyddiau canlynol rhwng yr oriau 20:00 - 06:00:
11/08/25 - 13/08/25
Tua'r gorllewin ar gau rhwng cyffordd 45 Ynysforgan - cyffordd 46 Llangyfelach.
Lôn 2 ar gau tua'r dwyrain.
13/08/25 - 15/08/25
Tua'r dwyrain ar gau rhwng cyffordd 46 Llangyfelach - cyffordd 45 Ynysforgan.
Lôn 2 ar gau tua'r dwyrain.
15/08/25 - 16/08/25
Ffordd ymuno cyffordd 45 tua'r gorllewin ar gau.
Lôn 1 ar gau i'r ddau gyfeiriad.
Gwyriad Traffig y Draffordd
Ochr ogleddol y dros-bont:
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio i Heol Maes yr Eglwys ac i Ffordd Pant Lasau, gan wedyn ymuno â'r M4 yng nghyffordd 46 (Cyfnewidfa Llangyfelach).
Ochr ddeheuol y dros-bont:
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio i Ffordd Llanllienwen, gan wedyn ymuno â'r M4 ger cyffordd 45 (Cyfnewidfa Ynysforgan).
Gwyriad Traffig Lleol
Ochr ogleddol y dros-bont:
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio i Heol Maes yr Eglwys ac i Ffordd Pant Lasau, gan wedyn ymuno â'r M4 yng nghyffordd 46 (Cyfnewidfa Llangyfelach). Yng Nghyfnewidfa Ynysforgan dylid ymadael ar Ffordd Llanllienwen.
Ochr ddeheuol y dro- bont:
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio i Ffordd Llanllienwen, gan wedyn gymryd yr A4067 tua'r de i ymuno â'r A48.
Defnyddiwch Ffordd Pant Lasau i gyrraedd lleoliadau lleol i’r gogledd o’r bont.
Gwyriad M4 (11/08/25 - 15/08/25)