Mae cynllun gwerth £6 miliwn ar yr M4, i gryfhau Pont Afon Ebwy ac i wella diogelwch, yn mynd yn ei flaen yn dda.
Mae'r bont yn cludo traffordd yr M4 dros Afon Ebwy, i'r gogledd o gyffordd 28 Parc Tredegar. Mae tua 500,000 o siwrneiau’n digwydd ar y rhan brysur hon o'r rhwydwaith pob wythnos. Bydd y gwaith hwn yn lleihau'r risg o gau’r ffordd yn ddirybudd ac yn caniatáu i'r siwrneiau hyn barhau'n ddiogel.
Mae fideo treigl amser o Afon Ebwy yn dangos y trawstiau cryfhau 20 tunnell yn cael eu gollwng i’r safle gan graen.
Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC) a'u partneriaid, WSP a Chontractwyr Alun Griffiths wedi datblygu methodoleg dylunio ac adeiladu arloesol sy'n caniatáu gyrwyr i barhau i ddefnyddio’r bont yn ystod y gwaith adeiladu. Mae hyn yn helpu i leihau nifer yr adegau fydd angen cau’r ffordd yn gyfan gwbl ac yn eu cyfyngu i ddigwydd dros nos yn unig.
Mae'r gwaith, a ddechreuodd y llynedd, yn cynnwys clirio’r rhywogaethau ymledol fel llysiau’r dial a chael gwared ar bridd dros ben. Bydd hyn yn helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd a bioamrywiaeth yn yr ardal.
Arwain y ffordd ar fywyd gwyllt
Mae effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd lleol eisoes wedi'u gweld wrth i bâr o siglenni lwyd nythu ar y bont am gyfnod byr. Roedd gweithwyr yn ofalus i beidio â amharu ar y nyth ac yn cwblhau gwaith arall nes i’r adar yn hedfan i ffwrdd.
Mae'r bywyd gwyllt ger y bont yn ased anhygoel; mae rhywogaethau fel creyr glas a glas y dorlan hefyd wedi'u gweld wrth ochr Afon Ebwy a'r ardaloedd cyfagos. Mae ecolegwyr wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm y prosiect i sicrhau y gofelir am yr ystod eang o rywogaethau a warchodir ar hyd y ffordd.
Adeiladwyd pierau concrid wedi'u hatgyfnerthu ar y naill ben o’r bont. Mae’r pierau hyn yn ymgrynhoi’r hen golofnau i greu un wal fawr a chânt eu defnyddio i gefnogi ffrâm cryfhau dur yn y dyfodol agos. Yn ddiweddar, cafodd paledi wedi'u defnyddio o safle'r gwaith eu rhoi i ysgol gynradd yn Nhorfaen i wneud ceginau awyr agored.
Beth arall sydd angen ei wneud?
Mae angen lonydd cul rhwng cyffyrdd 26 a 28 ar yr M4 fel mesur lliniaru i gadw'r bont mewn gwasanaeth yn ystod y gwaith hwn. Mae'r bont yn cael ei monitro'n gyson gyda mesuryddion monitro o bell nes bod y dec yn cael ei newid. Bydd rheolaeth traffig o amgylch cyffordd 28 Parc Tredegar ar yr M4 hefyd yn parhau er mwyn caniatáu mynediad i'r safle o'r slipffordd tua'r dwyrain bob amser yn ystod y gwaith adeiladu.
Tua diwedd mis Gorffennaf bydd ffrâm yn cael ei chodi yn erbyn y strwythur, i gefnogi rhychwant canol y bont. Yn dilyn hyn bydd gwaith dros dro yn cael ei disodli, a bydd gwaith i warchod yn erbyn erydiad a gwaith adfer yn digwydd yn ystod yr hydref.
Bydd Traffig Cymru yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn nes at yr amser. Anogir gyrwyr sy'n defnyddio'r M4 i edrych ar www.traffig.cymru a @TraffigCymruD ar Twitter cyn teithio am y newyddion diweddaraf am draffig a chynnydd ar gyfer y gwaith hwn.