Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Y 5 Angheuol

Dyma'r pum prif achos o wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dilyn rheolau'r ffordd ond yn anffodus, mae lleiafrif bach yn peryglu eu hunain, eu teuluoedd a defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed.

Gall peidio â thalu sylw wrth yrru peryglu chi ac eraill. Mae'r rhan fwyaf o ddamweiniau yn digwydd oherwydd bod pobl yn gwneud camgymeriadau. Rhai enghreifftiau o yrru’n ddiofal yw:

  • Gyrru'n rhy gyflym pan fydd y ffordd yn wlyb neu'n rhewllyd.
  • Bwyta, yfed, neu ddefnyddio eich ffôn wrth yrru.
  • Peidio ag edrych yn iawn ar arwyddion y ffordd neu chyffordd.
  • Gyrru'n rhy agos at y car o'ch blaen.
  • Newid lonydd heb ddefnyddio signalau.
  • Peidio â stopio ar gyfer ceir heddlu, ambiwlans neu injan dân.

Mae gwregysau diogelwch yn helpu i'ch diogelu mewn damwain. Maen nhw'n eich atal rhag cael eich taflu o'r car.

  • Rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn damwain os nad ydych chi'n gwisgo un.
  • Gwisgwch wregys diogelwch bob amser, hyd yn oed ar deithiau byr.
  • Gwisgwch y gwregys yn iawn i amddiffyn eich hun.
  • Rhaid i blant dros 12 oed neu sy'n dalach na 135cm wisgo gwregys diogelwch.
  • Rhaid i blant iau ddefnyddio sedd car.

Yn ôl y gyfraith

  • Gallwch gael dirwy o £100 yn y fan a'r lle am beidio â gwisgo gwregys diogelwch.
  • Gall y ddirwy fynd hyd at £500 yn y llys.
  • Mae gyrwyr yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod plant yn y sedd car neu'n gwisgo’r gwregys diogelwch yn gywir.

Mae gyrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau yn beryglus iawn. Gall arwain at farwolaeth neu anaf difrifol.

Os byddwch yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau , gallwch:

  • Cael eich gwahardd rhag gyrru am flwyddyn.
  • Derbyn cofnod troseddol.
  • Cael dirwy ariannol ddrud
  • Mynd i'r carchar.
  • Colli eich swydd neu'ch car.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae 11 o bobl yn marw bob wythnos yn y DU oherwydd yfed a gyrru.
  • Dynion ifanc yn eu 20au sy’n wynebu’r risg fwyaf.
  • Mae rhai cyffuriau ynarafu eich amseroedd ymateb, eraill yn gwneud i chi gymryd risgiau – mae'r ddau yn beryglus.
  • Roedd 18% o bobl sy'n marw mewn damweiniau wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon.

Efallai y byddwch chi'n dal dros y terfyn y bore ar ôl yfed.

Nid yw’n bosib ffocysu ar yrru ag i ddefnyddio eich ffôn ar yr un pryd. Gall alwad neu neges testun tynnu sylw hyd yn oed y gyrwyr mwyaf ofalus.

Mae yn erbyn y gyfraith i ddefnyddio'ch ffôn wrth yrru, hyd yn oed os:

  • Rydych yn llonydd wrth oleuadau traffig.
  • Rydych chi mewn tagfeydd
  • Rydych chi'n goruchwylio dysgwr.
  • Mae eich ffôn wedi ei osod mewn ‘flight mode’.

Gallwch ddefnyddio ffôn yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Mae'n argyfwng ac ni allwch stopio'n ddiogel
  • Rydych chi wedi parcio.
  • Rydych chi'n parcio'r car gan ddefnyddio ap
  • Caniateir y defnydd o offer llawrydd, ond: ni allwch ddal y ffôn ac ni ddylai’r offer rhwystro eich golwg.

Rhaid i chi bob amser fod mewn rheolaeth o’ch cerbyd.

Y gosb

  • 6 pwynt ar eich trwydded.
  • Dirwy o £200.
  • Os ydych chi'n yrrwr newydd, gallech golli eich trwydded.
  • Gallech hefyd fynd i'r llys a chael eich gwahardd neu cael dirwy hyd at £1,000 (£2,500 i yrwyr lorïau neu fysiau).

Mae gyrru'n rhy gyflym yn beryglus iawn. Mae cyflymder yn gwneud damweiniau yn fwy tebygol ac yn fwy marwol. Mae gyrwyr sy'n torri'r rheolau - fel goryrru, defnyddio ffôn, neu yrru ac yfed - yn fwy tebygol o achosi damweiniau angheuol. Mae'r damweiniau hyn yn difetha bywydau. Dyna pam rydyn ni'n gweithio'n galed i atal y trasiedïau hyn y gellir eu hosgoi.