Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A4060 Traphont Pentrebach

Dyddiad dechrau: ⁠27/10/2025 | Dyddiad gorffen: 08/01/2026

Pentrebach

Bydd gwaith adnewyddu hanfodol i gymalau ymestyn ac ailwynebu i Draphont Pentrebach rhwng yr A470 cylchfan Abercanaid a'r A4060 cylchfan Pentrebach, yn cychwyn ar 27/10/2025 am 9 wythnos. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 9 wythnos rhwng 20:00 - 06:00 wedi cau'r ffordd gerbydau yn llwyr rhwng cylchfan Abercanaid ar yr A470 a chylchfan Pentrebach ar yr A4060.

Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn llai, a hynny i leihau aflonyddwch.

A470 tua'r gogledd a'r de ⁠- bydd traffig sy'n mynd ar yr A4060 ar hyd cylchfan Abercanaid yn cael ei wyro i'r gogledd i gylchfan cyfnewidfa Cefn Coed, yna i'r dwyrain i ailymuno â'r A4060 tua'r de ar hyd cylchfan cyfnewidfa Dowlais Top ar yr A465.

A465 i'r A470 ar hyd yr A4060 - yn cael ei wyro i'r gorllewin i gylchfan cyfnewidfa Cefn Coed i ailymuno â'r A470 tua'r de.

A4060 tua'r de o gylchfan Pentrebach ⁠- yn cael ei wyro i'r gogledd i gylchfan cyfnewidfa Dowlais Top, yna i'r gorllewin ar hyd yr A465 i ailymuno â'r A470 yng nghylchfan cyfnewidfa Cefn Coed.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X a Facebook.