Dyddiad Cychwyn: 24/02/2026 | Dyddiad Gorffen: 26/06/2026
Cynnal a chadw hanfodol gan gynnwys gosod colofnau goleuadau, i slipffyrdd wrth gyffordd Rhymni yr A465. Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 24/02/2026 a'r 26/06/2026
Ffordd ymuno tua'r gorllewin - Ffordd ar gau dros nos Nos Iau 25/06/2026 a nos Wener 26/06/2026 i gwblhau'r gwaith.
Yn ystod cyfnodau o gau'r ffordd, bydd cerbydau yn cael eu dargyfeirio yng Nghyffordd Rhymni i ymuno â'r A465 i ddechrau gan deithio tua'r dwyrain, ac yna gadael y ffordd wrth gyffordd Tredegar. O'r fan honno, byddant yn parhau i ddilyn yr arwyddion llwybr dargyfeirio ac yn ail-ymuno â'r A465 gan deithio tua'r gorllewin er mwyn parhau â'u taith.
Bydd lonydd cysylltiedig ar gau gyda rheolaeth signalau traffig dros dro, i draffig gaiff ei ddargyfeirio sy'n teithio ymlaen ac ar gyfer traffig lleol sy'n dilyn y gwaith dargyfeirio lleol gan ddefnyddio'r cylchfannau ar Gyffordd Rhymni.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD