Dyddiad Cychwyn: 24/02/2026 | Dyddiad Gorffen: 03/04/2026
Cynnal a chadw hanfodol gan gynnwys gosod colofnau goleuadau, i slipffyrdd wrth gyffordd Rhymni yr A465. Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 24/02/2026 a'r 03/04/2026
Bydd y gwaith yn digwydd dros 5 wythnos, yn bennaf dros nos yn ystod yr oriau 20:00 i 06:00, gan gau'r ffordd ymuno a'r ffordd ymadael unigol ar gyffordd Rhymni gyda lôn yr A465 ar gau (i'r ddau gyfeiriad). Bydd lonydd cysylltiedig hefyd yn cael eu cau gyda rheolaeth signalau traffig dros dro ar gyfer traffig gaiff ei ddargyfeirio a thraffig lleol sy'n defnyddio'r cylchfannau ar Gyffordd Rhymni. Mae'n rhaid cau'r lonydd i gael gwared ar draffig cyffredinol o ardal y gwaith er diogelwch y gweithlu a'r cyhoedd sy'n teithio.
Yn ystod y cyfnod y bydd ffyrdd ar gau, bydd cerbydau ar yr A465 sy'n teithio tua'r gorllewin gaiff eu heffeithio yn cael eu dargyfeirio wrth Gyffordd Rhymni i barhau ar yr A465 ac i ddod i ffwrdd wrth gyffordd Dowlais Top, gan wedyn barhau i ddilyn arwyddion llwybr dargyfeirio ac ailymuno â'r A465 i fynd tua'r dwyrain ac ymadael wrth y slipffordd ar gyfer cyffordd Rhymni i barhau i deithio ymlaen.
Bydd cerbydau sy'n teithio tua'r dwyrain yr effeithir arnynt yn cael eu dargyfeirio wrth Gyffordd Rhymni i barhau ar yr A465 ac i ddod i ffwrdd wrth gyffordd Tredegar, gan wedyn barhau i ddilyn arwyddion y llwybr dargyfeirio ac ailymuno â'r A465 i fynd tua'r gorllewin cyn ymadael ar y slipffordd i gyffordd Rhymni i barhau i deithio ymlaen. Bydd lonydd cysylltiedig ar gau gyda rheolaeth signalau traffig dros dro, i draffig gaiff ei ddargyfeirio sy'n teithio ymlaen ac ar gyfer traffig lleol sy'n dilyn y gwaith dargyfeirio lleol gan ddefnyddio'r cylchfannau ar Gyffordd Rhymni.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD