Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A483 Llanfair-ym-Muallt - Cam 2 gwaith ail-wynebu

Dyddiad cychwyn: 03/11/2025 | Dyddiad gorffen: 02/02/2026 

Llanfair-ym-Muallt - Cam 2 gwaith ail-wynebu, gwelliannau i'r droedffordd a'r draeniad - 03/11/25 - 02/03/26 

Bydd ail gam y gwaith ar yr A470/A483 yn ymestyn o gyffordd Stryd y Castell/Ffordd y Castell yn y dwyrain, ar hyd y coridor tua'r gorllewin (Broad Street, Stryd Fawr, Stryd y Gorllewin a Ffordd y Garth), gan ddod i ben ger y gylchfan fach ar Ffordd y Garth yn y gorllewin.  Mae'r ail gam wedi ei drefnu i gael ei gynnal rhwng dydd Llun, 3 Tachwedd 2025, a dydd Llun, 2 Mawrth 2026.  Mae angen ymgymryd â'r gwaith ail-wynebu a gwella er mwyn mynd i’r afael â rhannau sydd wedi dirywio ac yn diffygio, gan ddarparu arwyneb mwy llyfn/mwy diogel i ddefnyddwyr y ffordd, yn ogystal â gwelliannau i'r draeniad ac isadeiledd cerddwyr.

 

03/11/25 - 2/12/25 - Stryd y Castell:⁠ Cau'r lonydd tua'r dwyrain a'r gorllewin dan system goleuadau tair ffordd am oddeutu 4 wythnos, o ddydd Llun 3 Tachwedd i ddydd Mawrth 2 Rhagfyr.

  • Stryd y Castell:⁠ Cau yn llwyr yn y nos o ddydd Mawrth 2 Rhagfyr i ddydd Gwener 5 Rhagfyr, rhwng 19:00 a 07:00 (pan fydd llif traffig yn is). ⁠Yn ystod y cyfnod cau, bydd y gwyriadau a ganlyn yn eu lle:

A470 Tua'r Dwyrain:⁠ Bydd traffig sy'n teithio tua'r dwyrain ar yr A470 yn cael ei gyfeirio i ddilyn yr A483 i Lanymddyfri, gan wedyn gymryd yr A40 tua'r dwyrain i Aberhonddu, ble y gellir ail-ymuno â'r A470 a pharhau ar eu taith fel a drefnwyd.  

A470 Tua'r Gorllewin:⁠ Bydd traffig sy'n teithio tua'r gorllewin ar yr A470 yn derbyn rhybudd ymlaen llaw ar gyffordd yr A470/A479 i gymryd yr A470 tua'r de i Aberhonddu, ymuno â'r A40 tua'r gorllewin yn Llanymddyfri, gan wedyn gymryd yr A483 tua'r gogledd i Lanfair-ym-Muallt a pharhau ar eu taith fel a drefnwyd.  ⁠ ⁠

 

Dylai'r holl draffig arall (nad ydynt yn gerbydau) aros wrth y pwyntiau cau nes gellir eu tywys/cyfeirio yn ddiogel trwy'r rhan sydd wedi'i chau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @Traffig.CymruG