Dyddiad dechrau : 29/09/25 | Dyddiad gorffen : 23/01/26
Gwaith atgyweirio hanfodol ar wyneb y ffordd gerbydau a chynnal a chadw strwythurol.
Mae sgôp y gwaith yn cynnwys:
- Amnewid gorchudd gwrth-ddŵr dec y bont.
- Ailwynebu dec y bont.
- Amnewid yr uniadau ehangu presennol.
- Amnewid y Densotape i'r parapetau.
- Amnewid y selydd i'r trawstiau ymyl yn lleoliadau'r uniadau.
- Glanhau'r holl elfennau strwythurol.
- Profi'r concrid.
Er mwyn hwyluso'r gweithgareddau hyn bydd:
- Cau ar Ffordd Ymuno'r M4 C32 tua'r Gorllewin 'dros nos yn unig'.
- Cau Lonydd Amrywiol ar System Gylchu Coryton 'Dros Nos yn Unig'.
- Cau Troedffordd 24 awr
Pontydd Troed ar gau
Please note –
Gogledd Coryton - Bydd y bont troed yn ailagor dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2025.
De Coryton - Cafodd diffyg strwythurol ei amlygu yn ystod y gwaith adnewyddu, sydd wedi achosi oedi yn y dyddiad ail-agor. Rydym yn adolygu opsiynau atgyweirio ar hyn o bryd a byddwn yn darparu diweddariadau drwy ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol tan fydd gwybodaeth pellach ar gael.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth yn ystod cyfnod y gwaith hanfodol hyn.
Dilynwch y llwybr dargyfeirio o Longwood Dr, Caerdydd CF14 7HY i'r A4054, Caerdydd CF15 ac i'r gwrthwyneb. Gweler y cynllun ynghlwm.
Noder - Er mwyn cefnogi'r llwybr dargyfeirio sydd ar waith ar hyn o bryd a chynorthwyo trigolion lleol a chymudwyr, bydd gwasanaeth bws dros dro am ddim (Rhif 132) yn gweithredu rhwng Tongwynlais a Gwesty'r Pentref, Coryton.
Bydd y gwasanaeth hwn yn dechrau ar 3ydd Tachwedd 2025 ac yn rhedeg drwy gydol cyfnod y gwaith cynnal a chadw ym Mhont Droed Gogledd Coryton.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.
Cau Lonydd Amrywiol ar System Gylchu Coryton Dros Nos yn Unig
13/10/2025 (20:00) - 20/12/2025 (06:00)
05/01/2026 (20:00) - 16/01/2026 (06:00)
Pontydd Troed Gogledd-orllewin a De-orllewin Coryton
Dilynwch lwybr y gwyriad o Longwood Dr, Caerdydd CF14 7HY i'r A4054, Caerdydd CF15 ac i'r gwrthwyneb.
Ffordd ymuno'r M4 C32 tua'r gorllewin ar gau yn ystod y nos
Gwyriad llwybr cerdded: