Dyddiad dechrau : 29/09/25 | Dyddiad gorffen : 13/02/26
Gwaith atgyweirio hanfodol ar wyneb y ffordd gerbydau a chynnal a chadw strwythurol.
Mae sgôp y gwaith yn cynnwys:
Amnewid gorchudd gwrth-ddŵr dec y bont, yr uniadau ehangu presennol, y Densotape i'r parapetau a'r selydd i'r trawstiau ymyl yn lleoliadau'r uniadau. Ailwynebu dec y bont, glanhau'r holl eflennau strwythurol a phrofi'r concrid.
Er mwyn hwyluso'r gweithgareddau hyn bydd:
- Cau ar Ffordd Ymuno'r M4 C32 tua'r Gorllewin 'dros nos yn unig'.
- Cau Lonydd Amrywiol ar System Gylchu Coryton 'Dros Nos yn Unig'.
- Cau Troedffordd 24 awr
Pontydd Troed ar gau
Gogledd Coryton - Bu i'r bont droed ailagor dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2025. A daeth y gwasanaeth bws dros dro i ben yr un diwrnod.
De Coryton - Mae'r tywydd drwg diweddar wedi achosi oedi ychwanegol yn y gwaith ail-wynebu. O ganlyniad, mae'r contractwr bellach yn anelu at ail-agor y bont ar ddydd Gwener, 13 Chwefror 2026, os bydd yr tywydd yn caniatau. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu drwy ein cyfryngau cymdeithasol wrth i fwy o wybodaeth ddod yn hysbys.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.
Cau Llwybr Troed Pont Droed Coryton South; 24 Awr rhwng y dyddiadau canlynol
12/1/26 – 13/02/26 (08:00 – 17:00)
Cyfnod adeiladu – Symud i mewn / Dad-symud
29/9/2025 – 16/02/26
Pontydd Troed Gogledd-orllewin a De-orllewin Coryton
Dilynwch lwybr y gwyriad o Longwood Dr, Caerdydd CF14 7HY i'r A4054, Caerdydd CF15 ac i'r gwrthwyneb.
Ffordd ymuno'r M4 C32 tua'r gorllewin ar gau yn ystod y nos
Gwyriad llwybr cerdded:
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.