Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Twnnel Conwy Ar Gau tua'r Gorllewin

Diwrnod Cychwyn: 10/01/26 | Diwrnod Gorffen 20/01/2026

Conwy Tunnel

Bydd yr A55 Twnnel Conwy ar gau tua'r gorllewin rhwng C17 a C18 yn dechrau ar 10/01/26 ac yn parhau hyd at y bore 20/01/26.

Bydd cau ffordd gerbydau'r A55 tua'r gorllewin yn llwyr rhwng C17 a C18 yn Nhwnnel Conwy yn dechrau ar 10/01/26 ac yn parhau hyd at fore'r 20/01/26 pan fydd rheolaeth traffig yn cael ei thynnu oddi yno a'r twnnel yn ail-agor yn llawn.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

Amnewid goleuadau LED mewnol sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.

Ail-ffurfweddu ac uwchraddio'r system rheoli goleuadau.

Amnewid caeadau cafn ceblau dur sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.

Atgyweiriadau concrid i lwybrau gwacau.

Amnewid rhwystr diogelwch sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Cywiro diffygion isadeiledd Mecanyddol a Thrydanol.

Profion Trydanol.

Ymweliadau ymgyfarwyddo gan staff gweithredol y Gwasanaethau Brys.

Ymarferiad Argyfwng Twnnel fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd.

Bydd traffig yn cael ei wyro ar hyd gwrthlif tua'r dwyrain yn Nhwnnel Conwy.

Bydd y gwaith yn digwydd ym mis Ionawr pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn llai, a hynny i leihau'r aflonyddwch.

Bydd llwythi anghyffredin dros 3.2m o led yn cael eu hebrwng drwy'r rheolaeth traffig yn ystod cyfnodau amser a bennwyd ymlaen llaw yn ystod y dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener. 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG