Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Prentisiaethau ACGCC - Stori Kai

Kai Tudor next to Conwy tunnel

Mae Kai Tudor wedi ymuno ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fel Prentis Gradd Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol sy'n gweithio gyda'r tîm Systemau Cludiant Deallus. Dilynwch ei stori isod.

Mae bod yn brentis i’r asiant yn ffordd dda o gael fy nghymwysterau a dysgu yn y gweithle, mae gweithio i’r asiant yn gwneud i chi teimlo fel rhan o’r tîm, ac mae hynny yn wych yn fy marn i.

Mae gweithio hefo’r asiant yn gwneud i chi sylweddoli faint o waith sy’n mynd i mewn i gadw’r lonydd i fynd.

Working with the agency makes you realise how much work goes into keeping the roads operational, which i find really interesting. 

Mi oedd gennai plan i fynd i brifysgol  fel myfyrwyr llawn amser, ond mi wnes i ddarganfod y brentisiaeth yma.

Mi fyswn i yn gorfod ad-dalu'r costau prifysgol yn ôl am flynyddoedd heb y brentisiaeth yma, a dwi’n cwblhau’r radd gyda 3 blwyddyn o brofiad yn y gweithle. Mae o’n “no-brainer”

Dwi yn gweithio fel prentis gradd peirianneg fecanyddol a thrydanol, yn gweithio ar y tim ITS (sef Intelligent Transport Systems) yn edrych ar ôl assets ar y rhwydwaith ffyrdd.

Dwi yn gweithio 4 diwrnod yr wythnos, hefo 1 diwrnod yn dysgu. Mae’r prentisiaeth yn para 3 mlynedd.

Mae’r prentisiaeth yn gadael fi hefo llawer o opsiynnau gwahanol o ran llwybr gyrfau, ond mae’n glir bod y prentisiaeth wedi paratoi fi am y dyfodol.

Dwi yn datblygu sgiliau o fewn y gweithle, felly mae dyfodol yn gweithio hefo’r asiant yn swnio’n tebygol.

Fel prentis, dwi wedi dysgu sgiliau ymarferol yn hytrach na sgiliau damcaniaethol yn unig. Dwi wedi dysgu am rheoli assets a projectau, sut mae gwneud Gwaith trydannol yn ymarferol, a llawer iawn am sut mae peirianwyr yn gweithio.

Do. Mae pawb yn yr asiant wedi bod yn glen iawn gyda mi a bob troy n barod i stopio a esbonio elfennau o’r Gwaith i mi.

Mi wnes i gychwyn y prentisiaeth ar ôl cwblhau cymwyster lefel 3 yn y coleg, mae’r prentisiaeth wedi galleuogi mi i fynd o lefel 3 i gradd.

Edrycha i fewn i pa fath o waith rydych eisiau gwneud / pa sector o waith ‘da chi eisiau datblygu sgiliau ynddo.